Trên fach Yr Wyddfa i ddathlu 130 o flynyddoedd
Mae un o brif atyniadau Cymru, sydd wedi llwyddo i ddenu miliynau o ymwelwyr dros y blynyddoedd, yn dathlu pen-blwydd arbennig iawn eleni.
Yn ystod cyfnod y Pasg, fe fydd Trên bach Yr Wyddfa yn dathlu 130 o flynyddoedd o deithio fyny ac i lawr o gopa mynydd uchaf Cymru.
Fe gafodd y syniad cyntaf i adeiladu rheilffordd yr holl ffordd i gopa'r Wyddfa ei drafod yn 1869, pan gafodd Llanberis ei gysylltu â Chaernarfon gan reilffordd.
Ond yn 1871, fe gafodd mesur ei gyflwyno gerbron y Senedd, yn gwneud cais am bwerau prynu gorfodol ar gyfer rheilffordd i'r copa, ac fe gafwyd gwrthwynebiad gan y tirfeddiannwr lleol.
Yr Arglwydd Assheton-Smith, meistr Chwarel Dinorwig oedd a'i gartref ar Stad y Faenol rhwng Bangor a'r Felinheli, a oedd o'r farn y byddai rheilffordd yn difetha'r golygfeydd o'r Wyddfa.
Am ddau ddegawd cyfan, ni ddigwyddodd dim, ac roedd Assheton-Smith yn parhau i wrthwynebu unrhyw gynlluniau i adeiladu'r rheilffordd.
Fodd bynnag, ar ôl llawer o berswâd, rhoddodd Assheton-Smith ei ganiatâd yn y pen draw i adeiladu rheilffordd yr holl ffordd o bentref Llanberis i gopa'r Wyddfa.
Fe ddechreuodd y gwaith o adeiladu'r lein ym mis Rhagfyr 1894, pan dorrwyd y dywarchen gyntaf, gan barhau hyd nes mis Chwefror 1896, gyda chyfanswm y gost o adeiladu yn £63,800 (sy'n cyfateb i dros £7 miliwn mewn arian heddiw).
Damwain ar y diwrnod cyntaf
Agorwyd y rheilffordd yn swyddogol ar ddydd Llun 6 Ebrill 1896, ac anfonwyd dau drên i'r copa.
Ar y daith gyntaf yn ôl i lawr y mynydd, fe gollodd y trên â dau gerbyd eu lle ar y trac gan syrthio i lawr ochr y mynydd a bu farw un teithiwr ar ôl neidio o'r cerbyd.
Mae nifer o drenau gwahanol, yn rhedeg ar injan stêm a diesel wedi mynd a dod o gopa'r wyddfa ar hyd y blynyddoedd, gyna miliynau wedi gwneud y daith ar hyd y blynyddoedd, yn ogystal â bod yn destun cân a wnaed yn adnabyddus gan Hogia Llandegai yn yr 1960au.
Erbyn hyn, mae'r rheilffordd yn adnabyddus ar draws y byd, am iddi weithredu ar rai o lethrau mwyaf serth a thrwy amodau tywydd mwyaf eithafol yn y DU.
Mae'r gwasanaethau yn cael eu cyfyngu yn ystod y tywydd mwyaf eithafol oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch, gyda'r lein fel rheol ar gau o fis Tachwedd i ganol mis Mawrth.
(Llun: Wiki Commons)