Trên yn dod oddi ar y cledrau yn Essex
Mae disgwyl aflonyddwch sylweddol ar wasanaethau trên yn ne Lloegr wedi i drên ddod oddi ar y cledrau brynhawn Gwener.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod gwasanaethau brys wedi eu galw i'r fan ger gorsaf Wickford, wedi i gerbydau cefn trên ddod oddi ar y cledrau am tua 14:12.
Arhosodd y cerbydau ar eu traed ac nid oes unrhyw anafiadau wedi’u cofnodi hyd yma.
Mae’r heddlu, parafeddygon a’r gwasanaeth tân yn ymateb i’r digwyddiad.
Mae’r rheilffordd rhwng Wickford a Southend Victoria wedi cau, gyda gwasanaethau rhwng London Liverpool Street a Southend Victoria wedi’u heffeithio fwyaf.
Dywedodd Network Rail eu bod yn gweithio i ddeall beth sydd wedi digwydd ac i ddarparu cymorth yn ôl yr angen.
Daw’r digwyddiad lai na 24 awr wedi i drên arall ddod oddi ar y cledrau ger Lewes yn East Sussex ddydd Iau.
Mae ymchwiliad ar y gweill ar gyfer y ddau achos.