Y Seiclwr, Finlay Tarling o Aberaeron wedi marw yn 19 oed yn ystod ras ym Mhortiwgal
Mae’r seiclwr Cymreig Finlay Tarling wedi marw yn 19 oed yn dilyn “damwain ddifrifol” yn ystod ras Volta a Portugal ddydd Gwener.
Roedd Tarling, o Ffos-y-ffin ger Aberaeron, yn cystadlu dros NSN Development Team yn wythfed cymal y ras rhwng Melgaço a Fafe.
Yn ôl adroddiadau ym Mhortiwgal, cafodd ei daro gan gerbyd oedd yn teithio i’r cyfeiriad anghywir pan oedd y ras ychydig dros 20km o’r llinell derfyn. Nid yw trefnwyr y ras wedi cadarnhau holl amgylchiadau’r digwyddiad eto.
Cafodd y cymal ei atal, gyda’r seremoni ar y podiwm yn cael ei chanslo fel arwydd o barch. Dywedodd trefnwyr Volta a Portugal a Ffederasiwn Seiclo Portiwgal eu bod yn anfon eu “cydymdeimlad dwysaf” at ei deulu, ei gyd-aelodau a’i ffrindiau.
Mewn datganiad, dywedodd NSN Development Cycling Team: “Rydym wedi torri ein calonnau o orfod cyhoeddi marwolaeth Finlay Tarling yn y Volta a Portugal heddiw.
“Roedd Fin yn aelod poblogaidd iawn o’n tîm, ond yn bwysicach na dim, roedd yn fab, yn frawd ac yn ffrind i gynifer. Bydd colled fawr ar ei ôl.
“Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at rieni Fin, Michael a Dawn, ei frawd Josh, a phawb oedd yn ddigon ffodus i alw Fin yn ffrind.
“Gorffwys mewn hedd, Fin.”
Roedd Tarling yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Aberaeron ac yn arbenigo mewn rasys yn erbyn y cloc.
Roedd wedi ennill tair medal efydd ym Mhencampwriaethau Trac Iau’r Byd yn 2024, yn y ras bwyntiau, y Madison a’r ras ymlid tîm. Roedd hefyd wedi cynrychioli Prydain ar y ffordd ac ar y trac.
Ym mis Mehefin eleni, daeth yn drydydd ym Mhencampwriaeth Prydain yn erbyn y cloc, ac roedd wedi gorffen yn ail ar gymal o’r Tour du Rwanda yn gynharach yn y tymor.
Finlay oedd brawd iau’r seiclwr Josh Tarling, sy’n cystadlu dros Netcompany-Ineos.