Dau wedi marw mewn damwain awyren yng Ngwynedd
Mae dau berson wedi marw yn dilyn damwain awyren ysgafn yng Ngwynedd.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau toc wedi hanner dydd, ddydd Gwener nad oedd awyren ysgafn oedd yn teithio o faes awyr yn Lloegr wedi cyrraedd Maes Awyr Caernarfon yn Ninas Dinlle yn ôl y disgwyl.
Cafodd ymgyrch chwilio amlasiantaethol ei chynnal o’r awyr ac ar y ddaear, cyn i’r awyren gael ei darganfod mewn lleoliad anghysbell ger Trawsfynydd.
Cafodd y ddau berson oedd ar ei bwrdd eu cadarnhau’n farw yn y fan a’r lle.
Mae’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) wedi anfon tîm o ymchwilwyr i’r ardal.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Owain Llewellyn: “Mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau’r rhai oedd yn rhan o’r digwyddiad trasig hwn.
“Byddwn yn cynorthwyo’r AAIB gyda’u hymchwiliad er mwyn sicrhau bod yr amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad yn cael eu deall yn llawn.
“Mae hon wedi bod yn ymgyrch chwilio heriol ac rwy’n ddiolchgar i’r holl asiantaethau oedd yn rhan ohoni am eu proffesiynoldeb a’u hymroddiad.”