Trafnidiaeth Cymru: Talu dros £7 miliwn mewn iawndal i gwsmeriaid trenau dros dair blynedd
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi talu dros £7 miliwn mewn iawndal i gwsmeriaid gwasanaethau trên dros y tair blynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth a wnaed gan wefan Newyddion S4C, yn dangos bod dros £7,385,146 wedi ei dalu mewn iawndal i gwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru dros gyfnod o bron i dair blynedd rhwng Ebrill 2023 ac Ebrill 2026.
Mae'r data yn dangos bod £556,285 wedi’i hawlio gan gwsmeriaid yn ystod mis Mawrth eleni – y swm uchaf ar gyfer unrhyw fis dros y cyfnod.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud bod sawl ffactor yn effeithio ar brydlondeb gwasanaethau gan gynnwys prinder neu broblemau gyda’r fflyd, digwyddiadau tresmasu a chyfyngiadau cyflymder dros dro wrth groesfannau rheilffordd.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, sydd yn gyfrifol am seilwaith rheilffyrdd Cymru, mewn datganiad ar y cyd eu bod “yn gweithio’n galed i gludo cwsmeriaid i’w cyrchfannau yn ddiogel ac ar amser.”
Mae’r Llywodraeth newydd, dan arweiniad lleiafrifol Plaid Cymru, yn dweud “bod gwella gwasanaethau trafnidiaeth yn bwysig iawn i'r llywodraeth newydd.”
Nid oedd Llafur Cymru, oedd mewn grym ym Mae Caerdydd yn ystod y cyfnod dan sylw, eisiau ymateb.
‘Cant a hanner o bobl ar y platfform’
Yn ystod y flwyddyn 2025/26, cafodd £2,423,309 o iawndal ei hawlio gan gwsmeriaid, sy'n gynnydd o'r £2,359,656 a gafodd ei hawlio yn ystod 2024/2025.
Cafodd £2,602,181 ei hawlio gan gwsmeriaid yn ystod y flwyddyn flaenorol, sef 2023/24. Mae'r hawliadau yn cynnwys taliadau a wnaed yn ôl y cynllun Ad-dalu Oedi (Delay Repay) a hawliadau eraill, gan gynnwys talebau (vouchers).
Mae Ioan Dyer o Gaerffili yn defnyddio trenau yn gyson i deithio i’r gwaith ac i ohebu ar gemau rygbi ar draws De Cymru.
“Pan ti'n teithio i'r gorllewin o Abertawe tuag at Gaerfyrddin, mae'r gwasanaeth yn eitha’ sigledig, ac yn enwedig yn y nos,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae trenau yn cael eu canslo yn aml ac maen nhw’n trefnu bysys neu tacsis i gludo pobl ac mae hwnna’n digwydd yn eitha aml.”
Mae system ad-dalu oedi Trafnidiaeth Cymru yn addo ad-dalu 25% o bris tocyn petai rhwng 15-29 munud yn hwyr, 50% o’r pris petai’n 30-59 munud yn hwyr, 100% o docyn sengl petai rhwng awr a dwy awr yn hwyr, a 100% o bris tocyn dychwelyd os yw’n fwy na dwy awr yn hwyr.
“Na’i gyd maen nhw'n poeni am yw rhoi rhyw fath o arian yn ôl o'r tocyn,” ychwanegodd Mr Dyer.
“Ond i fi yn bersonol, y broblem mwyaf yw'r gwastraff amser. Pwy sy'n talu'r gost wedyn o fod awr yn hwyr i'r gwaith? Pwy sy'n talu wedyn am tacsi os wyt ti moyn mynd yn gyflymach i'r gwaith gan bod nhw'n hwyr? Maen nhw wastad yn gwrthod talu hwnna.”
Dywedodd ar un achlysur eleni bod trên o Gaerdydd i Gaerfyrddin wedi’i dod at ddiwedd ei daith yn Abertawe ar fyr rybudd, gan adael tua 150 o deithwyr ar y platfform.
“Doedd neb yn gallu dweud i ni beth oedd yn digwydd. Roedd teuluoedd gyda casys a luggage. Roedd hi’n amlwg bod nhw'n mynd ar daith eitha pell a ddim yn dod o’r ardal - bydd e wedi bod yn brofiad gwael iawn iddyn nhw.
“Y broblem mwyaf yw y diffyg gwybodaeth. Dwi'n deall weithiau bod y broblemau'n digwydd a ti'n siarad â’r staff a ‘dyn nhw ddim yn gwybod beth sy'n digwydd. Y peth mwyaf yw bod ti ddim yn gwybod pryd mae pethau'n mynd i gael eu sortio.”
Dywedodd ar achlysur arall ddwy flynedd yn ôl, bod problemau gyda brêcs ar drên oedd yn teithio rhwng Abertawe a Chaerdydd wedi gadael teithwyr yn disgwyl am dacsis, tua un o’r gloch yn y bore.
“Wnaethon nhw ddweud wrtho pawb i fynd bant yn Castell-nedd, ond roedden ni yna am ddwy awr - dim byd yn dod. Dim staff yna o gwbl. A roedden ni'n eistedd ar y palmant tu fas yr orsaf a neb yna.
“Yn y diwedd roeddwn i wedi cael llond bola, a wnaethon ni benderfynu cael tacsis gyda'n gilydd. Fe wnaeth pedwar o ni gael tacsis i Gaerdydd, a wnaeth hwnna gostio £100.
“Dwi'n deall bod pethau'n digwydd ar fyr rybudd ond mae'n just yn teimlo fel ‘fend for yourself’.
“I fi, mae'r tocyn fel contract. Ti'n gorfod mynd o un lle i’r llall, a mae lan i'r cwmni i gael ti o un lle i’r llall.”
‘Diffyg cynllunio’
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydnabod mai problemau gyda’r fflyd oedd wedi cyfrannu fwyaf tuag at yr hawliadau iawndal dros y tair blynedd diwethaf, gan ddweud eu bod wedi buddsoddi £800 miliwn ar fflyd o drenau newydd.
Yn ôl un arbenigwr, nid oes digon o gerbydau yn cael eu defnyddio ar gyfnodau prysur ar y rheilffyrdd.
Dywedodd Dafydd Hughes, cyn-aelod o Bwyllgor Defnyddwyr Rheilffyrdd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae yna ddiffyg cynllunio effeithlon i ddweud y gwir, a cynllunio cynhwysfawr sydd yn edrych ar y rhwydwaith fel mae'r cyhoedd yn edrych arno.
“Mae rhywun yn gofyn pam, efo'r holl gor bwysau sydd ar y trenau yma, yn enwedig amser gemau pêl-droed neu rygbi...‘di o ddim fel tasa nhw'n edrych ar y calendr digwyddiadau'r ardal maen nhw'n ei wasanaethu ac yn deud, ‘oh ia, bydd na lot fwy o bobl eisiau mynd.’
“Dwi'n gwybod, yn rheolaidd yng Nghaerdydd mae ‘na rygbi a pêl-droed, ar hyd y gogledd mae Rasys Caer, ac mae'r trenau' yn llawn dop.
“Oedd hi'n briliant pan oedd yr Eisteddfod yn Pontypridd, oedd na drên bob chwarter awr o Gaerdydd a dyna oedd yn ddelfrydol a nesh i ganmol ar y pryd. Ond dydyn nhw ddim bob tro fel bod nhw’n siarad efo phobl ynglŷn â lle mae'r pwysau am fod, lle bydd angen y capasiti i ddeud y gwir.”
Ychwanegodd: “Mae'r broses o gynllunio o flaen llaw i weld yn wallus. Dylia hyn fod yn deinamig pan mae gennych chi’r Sioe Frenhinol, eisteddfodau, gemau rygbi a pêl-droed ac mae rhein yn cael ei rhoi yn y calendr rhai misoedd o flaen llaw.
“Dwi’n gwybod o brofiad bod y gwaith sy'n mynd i mewn efo'r awdurdodau yn cynllunio am dorf sy'n fwy na’r arfer yn gorfod bod yn drylwyr iawn ac mae rhywun yn trio rhagweld lle mae'r problemau yn mynd i fod.”
Ymateb
Fe wnaeth Network Rail a Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi ddydd Llun y byddai gwasanaethau ar hyd rheilffordd arfordir gogledd Cymru yn cynyddu tua 50% o ddydd Llun ymlaen, wrth i wasanaethau newydd rhwng Cymru a Lloegr ddechrau.
Mae datganiad ar y cyd rhwng Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Network Rail Cymru a'r Gororau yn nodi: “Rydym yn deall pa mor rhwystredig y gall trenau sy’n cael eu hoedi neu’u canslo fod i deithwyr, ac er bod amhariadau yn gallu digwydd am sawl rheswm, mae ein cydweithwyr yn gweithio’n galed i gludo cwsmeriaid i’w cyrchfannau yn ddiogel ac ar amser.
“Wedi’i yrru gan ein trenau newydd sbon, gwell dibynadwyedd seilwaith a chydweithrediad agos â’r diwydiant, mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail Cymru a’r Gororau wedi cyflawni gwelliannau perfformiad sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.
"TrC yw'r gweithredwr sydd wedi gwneud y gwelliant mwyaf mewn perfformiad am y trydydd cyfnod dilynol, tra bod Cymru a'r Gororau bellach y llwybr Network Rail sydd wedi gwella fwyaf yn genedlaethol ar gyfer mesur rheoleiddio 'Ar Amser i Dri'.
“Er ei bod hi’n wych gweld cynnydd, rydyn ni’n gwybod bod yna fwy i’w wneud. Byddwn ni’n parhau i herio’n hunain i wneud ein gwasanaethau’n well byth i’n cwsmeriaid.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gwella gwasanaethau trafnidiaeth yn bwysig iawn i'r llywodraeth newydd a byddwn yn gweithio'n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru i gyflawni'r gwelliannau y mae teithwyr yn eu haeddu."
