Traeth De Aberllydan yn Sir Benfro wedi ei enwi’n draeth gorau Cymru
Mae traeth De Aberllydan yn Sir Benfro wedi ei enwi’n draeth gorau Cymru gan The Times a The Sunday Times.
Mae’r traeth yn un o wyth yng Nghymru sydd wedi eu cynnwys ar restr flynyddol y papurau o 50 traeth gorau’r DU, a cafodd ei chyhoeddi ddydd Llun.
Dyma’r 18fed tro i’r rhestr gael ei chyhoeddi, yn dilyn arolwg pum wythnos a thaith 4,307 milltir i archwilio 607 o draethau.
Wrth ddisgrifio De Aberllydan, dywedodd prif awdur teithio The Times a The Sunday Times, Chris Haslam: “Mae’r tywod yn yr enghraifft berffaith hon o draeth yn Sir Benfro mor feddal fel eich bod yn suddo hyd at eich fferau wrth gamu oddi ar y llwybr.
“Mae ganddo ddŵr clir fel grisial, pyllau creigiog y gallwch eu defnyddio fel tybiau poeth os yw’r haul a’r llanw’n iawn, ac, fel sy'n wir am y traethau gorau i gyd, nant yn rhedeg ar draws y pen pellaf.”
Ychwanegodd fod fan hufen iâ ar ben y clogwyn fel arfer, gyda Chapel Sant Gofan tua milltir i’r gorllewin ar hyd llwybr yr arfordir.
Y traethau o Gymru ar y rhestr
Dyma’r wyth traeth yng Nghymru sydd wedi eu cynnwys:
- Traeth De Aberllydan, Sir Benfro
- Traeth Llanddwyn, Niwbwrch, Ynys Môn
- Traeth Porthor, Gwynedd
- Traeth Llangrannog, Ceredigion
- Traeth Mwnt, Ceredigion
- Traeth Abereiddi, Sir Benfro
- Traeth Marloes, Sir Benfro
- Bae’r Tri Chlogwyn, Gŵyr
Cafodd pob traeth ei asesu yn erbyn 12 maen prawf, gan gynnwys glendid, hygyrchedd, parcio, darpariaeth achubwyr bywyd, cyflwr y tai bach a’r cawodydd, pa mor addas yw’r traeth i gŵn ac ansawdd y dŵr.
Mae maen prawf newydd wedi ei ychwanegu eleni sy’n ystyried cyfraniad y gymuned leol at y traeth.
Dywedodd Chris Haslam ei fod “erioed wedi gweld ein glannau’n edrych mor brydferth” ar ôl cwblhau ei daith flynyddol o amgylch arfordiroedd Prydain a Gogledd Iwerddon.
“Byddai’n drueni gwastraffu’r dyddiau heulog hynny yn eistedd mewn meysydd awyr, yn ciwio wrth y peiriannau gwirio pasbortau ac yn ymladd am welyau haul,” meddai.
“Gallwch wneud hynny’r flwyddyn nesaf. Eleni, rhowch eich tywel ar draeth yn y DU.”
