‘Torcalon’: Brawd a chwaer yn diolch am gefnogaeth wedi tân ffatri feics
Mae brawd a chwaer sy’n berchen ar gwmni beics yn y canolbarth wedi diolch am y gefnogaeth yn dilyn tân yn eu ffatri.
Bu tua 30 o ddiffoddwyr tân yn ymladd tân yn ffatri feiciau Atherton Bikes ym Mharc Busnes Treowain ym Machynlleth.
Dywedodd y perchnogion Gee a Rachel Atherton, sy'n bencampwyr byd mewn beicio mynydd, eu bod wedi'u "dryllio" dros eu staff a'u cwsmeriaid.
Galwyd timau i’r safle am tua 08:00 fore dydd Sul wrth i golofn o fwg llwyd gael ei weld uwchben y dref.
Fe gynghorwyd trigolion i gadw drysau a ffenestri ar gau. Does dim sôn bod unrhyw un wedi ei anafu yn y digwydd.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi cynghori pobl i osgoi'r ardal.
Dywedodd Gee Atherton mewn fideo ar Instagram: "Mae hyn yn newyddion torcalonnus.
"Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid – chi i gyd sy'n aros am feiciau – yn y dyddiau nesaf. Byddwn yn cysylltu cyn gynted â phosibl."
Fe wnaeth Gee a’i chwaer Rachel ddiolch i'r gwasanaeth tân a dywedon nhw fod y diffoddwyr tân wedi bod yn "anhygoel".
"Y peth pwysicaf yw na anafwyd neb a bod pawb yn ddiogel," meddai Rachel yn y fideo.
Llun: Instagram/Atherton Bikes a Facebook/Machynlleth Community
