‘O’n i ddim yn meddwl y byddai’n digwydd i fi’: Rhybudd am sgam AI
Mae menyw o Aberystwyth a gafodd ei thwyllo gan sgamwr i anfon £15,000 ato wedi siarad am ei phrofiad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar.
Fe wnaeth y sgamwr ddefnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) i’w thwyllo.
Yr haf diwethaf, fe wnaeth Jane Powell ddechrau sgwrsio ar-lein â rhywun oedd yn honni bod yn Farah Rebhy, newyddiadurwraig o Gaza. Ond sgamwr oedd y person y tu ôl i’r sgrin ac roedd wedi dwyn hunaniaeth y newyddiadurwraig go iawn.
“O’dd hi'n siarad am yr holl bethau erchyll oedd yn digwydd. Roedd hi’n anfon lluniau o bobl oedd wedi cael eu saethu, o’dd gwaed, o’dd hi ‘di anfon lluniau o fabanod mewn ysbyty oedd wedi cael anafiadau - pethau fel ‘na," meddai Jane.
Fe wnaeth yr unigolyn ofyn i Jane gyfrannu yn uniongyrchol at ymgyrch codi arian ar gyfer bwyd a meddyginiaeth i bobl Gaza, cyn gofyn yn ddiweddarach iddi ddechrau rhedeg tudalen codi arian dros yr achos.
“O'n i'n gweld hi fel rhywun o’dd yn gwneud ei gorau i helpu'r bobl yn y gymuned lle’r oedd hi'n byw, ac yn ymateb i bob galwad i helpu pobl.”
Fe wnaeth Jane gytuno i helpu ac fe aeth ati i ddechrau’r dudalen codi arian. O’r dudalen honno, fe wnaeth hi drosglwyddo tua £15,000 i’r sgamwr.
“Ro'n i'n meddwl bo’ fi'n helpu go iawn.”
Fe gymerodd Jane gamau i geisio gwirio hunaniaeth y person, gan gynnwys cynnal galwad fideo, gofyn am lun i 'w gymharu â lluniau eraill o Farah Rebhy ar y we, a gofyn am lun o’i cherdyn y wasg.
Ond mae rhaglen Y Byd ar Bedwar yn gallu cadarnhau taw sgam AI oedd y cwbl. Mae Jane yn dweud bod y digwyddiad wedi’i hysgwyd.
“Oedd e'n sioc erchyll, wrth gwrs. Sioc fawr.
“O’n i’n gwybod am deepfakes, o’n i’n gwybod bod y pethe ‘ma yn bosib; ond o’n i jyst ddim yn meddwl bydden nhw’n digwydd i fi.”
Yn 2025 cafodd 8 miliwn o ‘deepfakes’ eu rhannu ym Mhrydain. Delweddau, fideos neu glipiau sain ffug yw’r rhain, sydd wedi eu creu gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud iddyn nhw ymddangos yn ddilys.
Mae Dr Neil Mac Parthaláin yn uwch ddarlithydd mewn cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ei brif faes ymchwil yw deallusrwydd artiffisial. Fe wnaeth Y Byd ar Bedwar rannu’r dystiolaeth gydag ef i gael ei asesiad ohoni.
“Mae'n amlwg i fi taw sgâm yw hon; ond i berson, falle, sy’ ddim yn gyfarwydd ag edrych am yr arwyddion, falle bydden nhw ddim yn sylweddoli taw sgam yw hon," meddai.
"Mae llawer o dechnegau sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gadael beth ni’n galw’n ‘artefacts’ yn lot o’r lluniau, a ma’ rywun yn gallu gweld y rheiny yn y llun yma.”
Mae 'artefact' mewn delwedd sydd wedi’i chreu gan AI yn wall neu’n fanylyn annaturiol sy’n ymddangos yn y llun oherwydd nad yw’r dechnoleg wedi llwyddo i greu’r ddelwedd yn gywir.
Fe wnaeth Dr Mac Parthaláin hefyd gadarnhau taw AI oedd wedi creu cerdyn y wasg, a bod y sgamwr wedi defnyddio AI yn gyson wrth gyfathrebu â Jane.
Mae'n cynghori unrhyw un sy’n tybio eu bod nhw’n delio â sgam i stopio cyfathrebu ar unwaith.
Mae rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi llwyddo i roi Jane mewn cysylltiad â’r Farah Rebhy go iawn, sy’n byw yng ngogledd Palestina.
“Mae wedi bod yn wych dod i ‘nabod hi, ac ni wedi datblygu cyfeillgarwch," meddai.
"Dwi 'di cael cyfle i ganfod y gwir a dweud y stori, ac ‘dwi'n gobeithio y bydd yn helpu pobl eraill i osgoi sgamiau.”
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: AI - Pwy Sy’n Twyllo?, nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.