Manchester City: 'Mae'r clwb yn bwysig i mi a fydd o'n cario 'mlaen i fod fel 'na'

Manchester City: 'Mae'r clwb yn bwysig i mi a fydd o'n cario 'mlaen i fod fel 'na'

Mae rhai o gefnogwyr Manchester City yn dweud y byddant yn parhau i gefnogi'r clwb waeth pa gynghrair y maen nhw'n chwarae ynddi.

Daw hyn ar ôl i'r clwb gael ei ganfod yn euog o bob cyhuddiad o dorri rheolau ariannol y gynghrair rhwng 2009-10 a 2017-18.

Mae Jamie Dawes-Hughes yn dod yn wreiddiol o Fanceinion ond bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae ganddo docyn tymor gyda Manchester City ers dros 20 mlynedd.

Fe wnaeth comisiwn annibynnol ganfod bod y clwb wedi trefnu “contractau ffug” gyda nifer o’i bartneriaid masnachol yn ystod y cyfnod hwnnw. 

Roedd hefyd wedi “dibynnu ar gytundebau ffug i gynyddu incwm y clwb yn artiffisial a lleihau ei gostau”.

Roedd y datganiad hefyd yn dweud bod City yn euog o’r rhan fwyaf o’r cyhuddiadau yn ymwneud â methiant y clwb i gydweithredu. Ni chafodd union nifer y cyhuddiadau eu nodi.

Mae City wedi cadarnhau y byddan nhw'n apelio yn erbyn canfyddiadau'r comisiwn annibynnol, gan ddweud fod y dyfarniad yn cynnwys "gwallau sylweddol ac amlwg o ran y gyfraith, egwyddor a ffeithiau, ac nad yw'n gadarn".

Image
Jamie
Mae gan Jamie Dawes-Hughes docyn tymor gyda Manchester City ers dros 20 mlynedd.

Wrth iddyn nhw baratoi i chwarae eu gêm gyntaf yn ôl yn Uwch Gynghrair Lloegr ers y dyfarniad, a hynny oddi cartref i Lerpwl ddydd Sul, dywedodd Jamie: "Dw i 'di profi'r amseroedd da ond hefyd yr amseroedd drwg. Dw i'n derbyn ar hyn o bryd bod pethau ddim yn edrych yn grêt i'r clwb o ran yr achos. 

"Ond hefyd mae hyder y clwb yn ei safbwynt ei hun a hefyd cefnogaeth Pep Guardiola yn rhoi ychydig o obaith i fi o ran be sy'n dod nesa."

Ychwanegodd Jamie: "Os ydyn ni'n cael ein israddio, dyw hynna ddim yn rili poeni fi llawer. 

"Dw i 'di cefnogi Manchester City yn yr Second Division a wna i gefnogi nhw lle bynnag maen nhw. Fysa fo yn siom i fi 'swn i'n colli, rhai o'r teitlau 'naethon ni ennill yn y cyfnod dan sylw, ond wedyn 'sa neb yn gallu cymryd yr atgofion na oddi wrtha i.

"Mae'r clwb yn bwysig i mi a fydd o'n cario 'mlaen i fod fel 'na. Ond, ie, gawn ni weld be sydd i ddod."

Image
Sion Edwards

Mae Siôn Lloyd Edwards hefyd yn gefnogwr brwd o'r clwb.

"Man City yn erbyn Lerpwl ddydd Sul, gêm 'da ni fel cefnogwyr Man City, methu aros i wylio," meddai.

"Gêm sy'n hanesyddol gyffrous hefyd, o ran y ddau dîm, 'di bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwetha. Dros yr wythnosau diwetha, mae 'di bod yn gyfnod anodd i gefnogwyr Man City."

Fe ychwanegodd Siôn ei fod yn cydnabod fod y cyfnod diweddar wedi bod yn heriol, ond ei fod yn gobeithio fod yr hyn sy'n cael ei ddweud gan uwch-swyddogion y clwb yn gywir.

"Lot o gyhuddiadau wedi cael eu gwneud yn erbyn ni, o ran twyllo ariannol. Gobeithio bod be ma' pobl sy'n uwch i fyny yn y clwb yn ddweud yn wir," meddai.

"Fydda i'n cefnogi y tîm dal cant y cant."

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, fe ddywedodd rheolwr y clwb Enzo Maresca fod yr "awyrgylch yn ffantastig" ymysg y chwaraewyr ac nad ydyn nhw wedi cael eu heffeithio gan y "sŵn" yn ymwneud â'r clwb.

"Y rheswm pam y gwnes i ymuno â'r clwb yw fy mod i'n ymddiried yn llwyr, 100%, yn y perchennog, y Prif Swyddog Gweithredol, y cyfarwyddwr chwaraeon a'r sefydliad cyfan. Felly, does gen i ddim amheuaeth am hynny.

"Dwi wedi siarad efo'r clwb. Rydyn ni gyd yn ymddiried, ac mae'n debyg mai'r amser cywir i siarad am hynny fydd pan y byddwn ni'n ennill yr apêl."

Cafodd Maresca ei benodi yn rheolwr ar y clwb ym mis Mehefin, ar ôl cyfnod euraidd Pep Guardiola wrth y llyw yno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.