Môr-wenoliaid bach yn ffynnu mewn nythfa yn y gogledd
Mae môr-wenoliaid bach wedi bod yn ffynnu mewn nythfa yng ngogledd Cymru wedi i fesurau cadwraeth newydd gael eu cyflwyno.
Mae nythfa adar Gronant yn Sir Ddinbych wedi codi corlannau ffensys trydan ar hyd ochr y nythfa tua’r tir i warchod y môr-wenoliaid bach sy’n bridio.
Yn ystod tymor 2026, cofnodwyd 133 o barau bridio, ynghyd ag o leiaf 153 o gywion bach, sy’n gynnydd ar y tymor diwethaf.
Yr ardal hon, sy'n nythfa adnabyddus ledled y byd, yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru ac mae'n cyfrannu at dros 10% o gyfanswm y niferoedd bridio yn y DU.
Mae hefyd yn lleoliad pwysig o ran cefnogi'r rhywogaeth yn ehangach ar draws y DU.
"Mae’r cynnydd yng nghyfartaledd y cywion bach fesul pâr bridio unwaith eto eleni yn dangos mor bwysig yw’r nythfa hon i ddyfodol y Môr-wenoliaid bach," meddai Garry Davies, Swyddog Cefn Gwlad gyda Chyngor Sir Ddinbych.
Nythu ar y traeth
Mae môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn cyrraedd y twyni tywod ym mis Mai i fridio ar y traeth cerrig mân - safle gwarchodedig sy'n cael ei baratoi ym mis Ebrill gan staff Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr.
Dim ond crafiad yn y tywod yw eu nythod, lle bydd parau, bob yn ail, yn deori rhwng 1 a 3 wy. Mae’r adar yn byw ar ddeiet o lymrïaid yn unig, drwy bysgota amdanynt ar y môr.
Ymhlith y mesurau sydd wedi eu rhoi mewn lle eleni mae ffensys gafodd eu codi i atal y cyhoedd rhag mynd at y nythfa a tharfu arni. Mae wardeiniaid hefyd wedi bod yn cadw golwg am ysglyfaethwyr o’r awyr ac ar y tir, er mwyn gwarchod yr adar.
Mae canolfan wylio dros dro yng nghanolfan y môr-wenoliaid a chuddfan adar er mwyn i’r cyhoedd weld a dod i gwybod mwy am yr adar.
Rhwydwaith ehangach
“Drwy arsylwi’r Môr-wenoliaid bach yn y nythfa, gwelwyd hefyd bod adar o nythfeydd bridio yn Iwerddon, gogledd ddwyrain Lloegr ac Ynys Manaw yn parhau i ymweld â Thwyni Gronant yn 2026, gan ategu pwysigrwydd y nythfa o fewn y rhwydwaith ehangach o safleoedd Môr-wenoliaid bach o amgylch môr Iwerddon,” meddai Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.
Ychwanegodd Mr Davies: “Rydym ni bartneriaid a gwirfoddolwyr yn falch iawn o fod wedi ymwneud â’r prosiect hwn sydd wedi datblygu’n llawer mwy na diogelu aderyn môr hynod o brin.
“Mae wedi bod yn dymor gwell fyth i’r adar eleni, sy’n wych ar gyfer y rhywogaeth hon.
"Mae hefyd wedi bod yn braf gweld adar amrywiol eraill o amgylch y nythfa, sydd wir yn dangos mor bwysig yw’r gwaith hwn bob blwyddyn."
Llun: Cyngor Sir Ddinbych
