Tor calon i Elfyn Evans ar ôl iddo orfod tynnu allan o Rali Kenya
Mae’r gyrrwr rali o Gymru, Elfyn Evans, wedi gorfod tynnu allan o Rali Kenya ar ôl i’w gar ddioddef difrod fore Sadwrn.
Ar ôl dechrau addawol i'r Cymro ers cychwyn y rali yn Kenya ddydd Iau, daeth bore Sadwrn â'r newyddion ei fod wedi gorfod gadael y rali yn gynnar.
Ar ôl bod yn ail trwy gydol y rali, fe ddifrododd system ataliad cefn y car ar gymal 31 cilometr o hyd, ‘Sleeping Warrior’, gan ei orfodi i dynnu i’r naill ochr.
Dyma’r rali gyntaf iddo orfod ei gorffen yn gynnar ers Rali Groeg yn 2024.
Yn dilyn hyn, fe wnaeth y Ffrancwr, Sebastien Ogier, esgyn i’r ail safle gydag Oliver Solberg, sydd yn ail i Elfyn Evans yn y bencampwriaeth eleni, yn arwain y rali.
Ond wrth deithio rhwng y cymalau, bu'n rhaid i Ogier a Solberg ill dau hefyd ddod a'u rali nhw i ben nhw oherwydd problemau gyda'u ceir.
Y gyrrwr o Japan, Takamoto Katsuta sydd yn arwain y rali bellach gyda saith cymal yn weddill a’r olaf o'r rheiny yfory.
Yn ôl dirprwy bennaeth tîm Toyota, Juha Kankkunen: "Roedd y cymal diwethaf yn un eithaf mwdlyd a rwff ac aeth y mwd fewn i ochr yr injan a thorri 'alternator' y ddau [Solberg ac Ogier]."
"Cafodd Oliver [Solberg] broblemau gyda throsglwyddiad (transmission). Ni'n gwybod beth digwyddodd iddo fe [Elfyn] yn barod felly dydy hi heb fod y bore gorau.
"Mae Taka yn dal i arwain ond dyna yw saffari. Gall hyn ddigwydd."
Llun gan: WRC
