Tocynnau Fury a Joshua yng Nghaerdydd wedi'u gwerthu i gyd mewn awr

Llun: Reuters
Joshua v Fury.JPG

Mae'r tocynnau cyffredinol ar gyfer gornest focsio Tyson Fury ac Anthony Joshua yng Nghaerdydd wedi'u gwerthu i gyd mewn llai nag awr, gyda rhai yn costio dros £13,000.

Roedd dros hanner miliwn o bobl yn aros mewn ciw ar-lein o fewn munudau i'r tocynnau fynd ar werth am hanner dydd ddydd Gwener.

Mae disgwyl i tua 80,000 o gefnogwyr allu gwylio'r ddau focsiwr ym Mhencampwriaeth pwysau trwm y byd yn Stadiwm Principality ar 11 Rhagfyr.

Roedd prisiau'r tocynnau'n amrywio o £88.50 i £13,128, gan gynnwys ffioedd archebu.

Mae rhai cefnogwyr wedi cwyno am y prisiau uchel a'r anhawster wrth geisio sicrhau tocynnau.

Mae tocynnau hefyd wedi ymddangos ar wefannau ailwerthu, gyda rhai yn cael eu hysbysebu am filoedd o bunnoedd.

Dyma fydd y tro cyntaf i Fury, sy'n 38 oed, a Joshua, sy'n 36 oed, wynebu ei gilydd mewn gornest broffesiynol, wedi blynyddoedd o drafodaethau ynghylch trefnu'r ornest.

Mae'r ddau wedi bod yn bencampwyr pwysau trwm y byd ddwywaith.

Er bod y digwyddiad yn dechrau nos Wener 11 Rhagfyr, mae disgwyl i'r brif ornest gael ei chynnal tua 01:00 fore Sadwrn 12 Rhagfyr.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau bod cais wedi'i gyflwyno i ganiatáu i'r stadiwm aros ar agor tan 03:30 er mwyn cynnal y digwyddiad, fydd yn cael ei ddarlledu'n fyw ledled y byd ar Netflix.

Nid yw'r trefnwyr wedi cadarnhau eto pwy fydd yn cystadlu yn y gornestau eraill ar y noson.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.