Cwm Cynfal: Her gyfreithiol yn 'atal cynllun hydro' dadleuol yn Eryri
Fe fydd cynllun ynni hydro dadleuol yng Ngwynedd yn cael ei atal yn dilyn her gyfreithiol, yn ôl Cymdeithas Eryri a'u cyfreithwyr.
Dywedodd y gymdeithas mewn datganiad fod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cytuno y dylid diddymu'r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad yng Nghwm Cynfal ger Llan Ffestiniog.
Gallai'r cais ddychwelyd gerbron pwyllgor cynllunio'r awdurdod mor fuan â mis Tachwedd, yn ôl y gymdeithas.
Byddai'r cynllun arfaethedig ger Llan Ffestiniog yn golygu dargyfeirio hyd at 70% o'r dŵr oddi wrth Raeadr y Cwm ar adegau er mwyn cynhyrchu trydan.
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn gwrthwynebu'r datblygiad oherwydd pryderon am ei effaith ar y rhaeadr a'r bywyd gwyllt yn yr ardal.
Fe gafodd y cynllun, a gyflwynwyd gan y brodyr Elis Dafydd, Moi Dafydd a Dafydd Elis o'r Bala, ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio'r awdurdod ar 24 Mehefin o wyth pleidlais i saith.
Her gyfreithiol
Ar 26 Awst, fe gyflwynodd Cymdeithas Eryri gais am adolygiad barnwrol o'r penderfyniad, y tro cyntaf i'r gymdeithas gymryd cam o'r fath yn ei hanes 60 mlynedd.
Roedd y gymdeithas a'u cyfreithwyr, Landmark Chambers, yn dadlau bod yr awdurdod wedi camddehongli neu gamddefnyddio gofynion Polisi Cynllunio Cymru ynghylch datblygiadau sy'n effeithio ar safleoedd gwarchodedig.
Yn benodol, roedd yn dadlau nad oedd aelodau'r pwyllgor wedi cael gwybod am ofyniad i sicrhau cytundeb eang a chlir ar fesurau i liniaru effeithiau datblygiad a gwella'r amgylchedd.
Mae'r awdurdod bellach wedi derbyn un o'r dadleuon cyfreithiol a gyflwynwyd gan y gymdeithas ac wedi cytuno y dylid diddymu'r penderfyniad gwreiddiol, yn ôl y gymdeithas a'r cyfreithwyr.
Beth nesaf?
Mewn diweddariad ddydd Mercher, fe gadarnhaodd Cymdeithas Eryri ei bod yn disgwyl i'r cais cynllunio ddychwelyd gerbron Pwyllgor Cynllunio a Mynediad yr awdurdod, o bosibl cyn gynted â 25 Tachwedd.
"Unwaith y bydd [Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri] wedi mynd i’r afael â’r pwynt cyfreithiol penodol dan sylw, rydym yn disgwyl i’r cais ddychwelyd at y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad mwy eu lai fel yr oedd o’r blaen – ac efallai mor fuan â’r 25ain o Dachwedd," meddai'r gymdeithas.
"Os bydd y bleidlais yn mynd yr un ffordd am yr eildro, mae’n debygol iawn y byddwn yn gwneud ail gais am Adolygiad Barnwrol."
Mae'r gymdeithas yn pwysleisio nad yw'r awdurdod wedi derbyn y rhan fwyaf o'i dadleuon cyfreithiol eraill.
Mae dros £17,000 wedi'i godi gan gefnogwyr tuag at gostau cyfreithiol yr ymgyrch hyd yma, ond mae'r gymdeithas yn rhybuddio y gallai cost adolygiad barnwrol llawn fod yn fwy na £60,000.
Yn ôl y brodyr sydd tu ôl i'r cynllun, byddai'r safle hydro yn gallu cynhyrchu digon o drydan ar gyfer tua 700 o gartrefi - ond cafodd tua 1,590 o wrthwynebiadau eu cyflwyno yn ystod y broses gynllunio.