Pryderon am gynlluniau i gau tair cyffordd yr M4 i fynd i’r afael â thagfeydd
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi codi pryderon am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ystyried cau tair cyffordd ar yr M4 fel ffordd o fynd i’r afael â thagfeydd yno.
Dywedodd Jane Mudd y gallai cau’r cyffyrdd “beri risg sylweddol” i amseroedd ymateb gwasanaethau brys ledled Gwent.
Yn ôl Ms Mudd, gallai’r mesur olygu bod cerbydau’r gwasanaethau brys yn gorfod defnyddio llwybrau hirach i gyrraedd lleoliadau.
Gallai hefyd arwain at fwy o draffig ar ffyrdd lleol, gan ddod â’r tagfeydd i mewn i gymunedau a chreu oedi pellach i gerbydau brys," meddai.
Er mai dim ond un o nifer o opsiynau sy’n cael eu hystyried yw cau’r cyffyrdd, dywedodd Ms Mudd ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad “llawn a thrylwyr” gyda’r gwasanaethau brys.
Dywedodd Ms Mudd: “Er fy mod yn ymwybodol mai un o nifer o gynigion yw hwn, mae’r rhain yn benderfyniadau enbyd.
“Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru’n cynnal ymgynghoriad llawn a thrylwyr gyda’r gwasanaethau brys ac yn ystyried o ddifrif yr effaith y gallai cau’r cyffyrdd hyn ei chael ar amseroedd ymateb i argyfwng yng Ngwent.”
Ystyried opsiynau
Mae’r llywodraeth yn cynnal astudiaeth dros 18 mis i ystyried ffyrdd gwahanol o wella trafnidiaeth o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd.
Ymhlith yr opsiynau mae lledu twneli Bryn Glas, a allai gostio tua £1.7bn a chymryd 12 mlynedd i’w gwblhau.
Mae opsiwn arall yn cynnwys cau rhai o gyffyrdd yr M4, a fyddai’n costio £14m ac yn cymryd dwy flynedd i’w gwblhau.
Mae cynllun hefyd i uwchraddio’r A48 a’r A4810, sef y ‘Llwybr Glas’ gynt. Byddai hynny’n costio £1.8bn ac yn cymryd wyth mlynedd.
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mark Hooper: “Byddwn yn cynnal astudiaeth dros 18 mis i ystyried amryw o ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau’r M4 o amgylch Casnewydd drwy adeiladu neu addasu ffyrdd.
“Ochr yn ochr â’r gwaith hwnnw, ry’n ni’n cymryd camau i leihau traffig ar yr adegau prysuraf hyd at tua un o bob deg cerbyd.
“Mae pob cerbyd sy’n cael ei dynnu oddi ar y ffordd yn helpu ar draffordd sydd eisoes yn cludo cymaint o draffig ag y gall ymdopi ag ef, neu fwy na hynny, ar yr adegau prysuraf.”

