Diffyg cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg mewn carchardai 'yn gallu effeithio ar iechyd meddwl'
Diffyg cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg mewn carchardai 'yn gallu effeithio ar iechyd meddwl'
Mae diffyg cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg mewn carchardai yn gallu effeithio ar iechyd meddwl carcharorion a'u hadferiad yn ôl i gymdeithas, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones wrth Newyddion S4C fod carcharorion ymhlith pobl fwyaf bregus cymdeithas, a bod gallu cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf neu iaith o'u dewis yn bwysig.
Daw ei sylwadau wedi i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan godi pryderon unwaith eto am ddarpariaeth gwasanaethau Cymraeg mewn carchardai.
Mewn llythyr at Brif Arolygydd Carchardai Ei Fawrhydi yr wythnos hon, dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Ruth Jones AS, nad yw hawliau carcharorion i ddefnyddio'r Gymraeg yn cael eu hasesu'n gyson.
Mae'r pwyllgor yn galw am well dulliau o fonitro gwasanaethau Cymraeg mewn carchardai yng Nghymru.
'Pobl fwyaf bregus cymdeithas'
Wrth siarad â Newyddion S4C, croesawodd Efa Gruffudd Jones ymyrraeth ddiweddaraf y pwyllgor.
"Rwy'n croesawu'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y Pwyllgor Materion Cymreig," meddai.
"Rwy'n meddwl eu bod nhw'n sylweddoli bod sicrhau bod carcharorion yn gallu defnyddio'r Gymraeg o fewn carchardai yn bwysig."
Ychwanegodd fod gallu defnyddio'r Gymraeg yn gallu gwneud gwahaniaeth i les carcharorion.
"Mae carcharorion yn rhai o bobl fwyaf bregus cymdeithas," meddai.
"Mae gen i gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw un sy'n dymuno siarad Cymraeg yn gallu gwneud hynny.
"O fod wedi siarad â charcharorion, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw gallu trafod yn eu hiaith gyntaf neu iaith o'u dewis.
"Rwy'n meddwl ei fod yn effeithio ar eu hiechyd meddwl ac, yn y pen draw, ar eu hadferiad nhw i gymdeithas."
Ychwanegodd fod heriau penodol yn wynebu menywod o Gymru sydd yn y carchar, gan nad oes carchar i fenywod yng Nghymru.
Mae menywod o Gymru sy'n cael dedfryd o garchar yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr, gyda'r agosaf yn Sir Gaer neu Sir Gaerloyw.
Pryderon y pwyllgor
Mewn llythyr ddydd Mawrth, dywedodd Ruth Jones AS fod ymchwiliad y pwyllgor wedi dod i'r casgliad y dylai carcharorion Cymraeg eu hiaith allu arfer eu hawl i siarad Cymraeg, a hynny ym mha bynnag garchar y maen nhw'n cael eu cadw.
Ond ychwanegodd nad yw'r pwyllgor yn credu bod yr hawl honno'n cael ei hasesu'n gyson nac yn unffurf ar hyn o bryd.
Mae'r pwyllgor wedi galw ar Arolygiaeth Carchardai EF i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i ddatblygu arolwg penodol ar gyfer carcharorion Cymraeg eu hiaith.
Byddai'r arolwg yn casglu gwybodaeth am ansawdd ac argaeledd gwasanaethau Cymraeg, gyda'r bwriad o gynnwys adran benodol ar y Gymraeg mewn adroddiadau arolygu carchardai yng Nghymru.
Dywedodd Ruth Jones fod y mater o bwysigrwydd mawr i'r pwyllgor, ac y bydd yn parhau i graffu arno dros weddill tymor y Senedd yn San Steffan.
Pryderon blaenorol
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Pwyllgor Materion Cymreig adroddiad oedd yn codi pryderon am brofiadau carcharorion Cymraeg eu hiaith.
Roedd tystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor yn cynnwys honiadau bod carcharorion yng Ngharchar Berwyn wedi cael eu hannog i beidio â siarad Cymraeg, a bod rhai wedi wynebu gelyniaeth wrth ddefnyddio'r iaith.
Roedd Comisiynydd y Gymraeg hefyd wedi codi pryderon am ddiffyg mynediad at Radio Cymru ac S4C mewn celloedd, oedi wrth dderbyn gohebiaeth Gymraeg a diffyg gwasanaethau crefyddol Cymraeg.
Ym mis Tachwedd 2025, lansiodd y Comisiynydd ymchwiliad i'r modd yr oedd y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yn gweithredu ei gynllun iaith Gymraeg.
Ymateb y Gwasanaeth Carchardai
Mewn ymateb swyddogol i adroddiad y pwyllgor, a gyhoeddwyd ym mis Medi, dywedodd y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei fod wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon uchel.
Dywedodd hefyd ei fod wedi ymrwymo i sicrhau bod unigolion yn gallu arfer eu rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg.
Yn ôl y gwasanaeth, mae'n parhau i weithio tuag at gyflawni 17 o argymhellion a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg yn 2018.
Ychwanegodd fod Arolygiaeth Carchardai EF wedi newid ei disgwyliadau ar gyfer carchardai yng Nghymru i gynnwys yr egwyddor y dylai carcharorion allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.
Dywedodd y gwasanaeth ei fod yn ystyried y gwaith o sicrhau hynny yn gyfrifoldeb ar y cyd rhyngddo ef, yr arolygiaeth a Chomisiynydd y Gymraeg.
Fe ddywedodd Efa Gruffudd Jones fod y Gwasanaeth Carchardai wedi ymateb yn gadarnhaol i'w hargymhellion.
"Mae 'na nifer o gamau cadarnhaol ar waith, ond wrth gwrs fe fydda i'n parhau i gadw llygad ac yn sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu cyflawni," meddai.

