Dyn o Gasnewydd yn ôl yn y carchar ar ôl cynnal perthynas dros Snapchat o’i gell
Mae dyn o Gasnewydd wedi derbyn dedfryd arall o garchar ar ôl cynnal perthynas gyda swyddog carchar dros Snapchat o’i gell.
Mae’r swyddog carchar hefyd wedi ei charcharu wedi i’r ddau gyfnewid mwy na 5,000 o negeseuon anghyfreithlon yn ystod perthynas agos drwy ffôn symudol oedd wedi'i wahardd.
Cafodd y deliwr cyffuriau o Gasnewydd, Jerome Nunes, oedd wedi cael ei ryddhau o ddedfryd flaenorol bron i ddwy flynedd yn ôl, ei garcharu am naw mis yn Llys y Goron Birmingham.
Cafodd Jade Morris, oedd wedi anfon lluniau ohoni ei hun at Jerome Nunes, hefyd ei charcharu am 12 mis ddydd Gwener.
Dywedodd barnwr ei bod wedi tanseilio diogelwch ac y gallai fod wedi achosi niwed difrifol iawn y tu mewn a thu allan i Garchar Long Lartin yn Swydd Gaerwrangon.
Dywedwyd wrth Nunes ei fod wedi “camddefnyddio” ei berthynas â Morris.
'Cosb briodol'
Clywodd y llys ddydd Iau fod y ddau wedi defnyddio sawl ffôn i gyfathrebu â’i gilydd ar ôl i Morris ddechrau gweithio yn y carchar diogelwch uchaf yn 2022.
Dechreuodd yr ymchwiliad ar ôl i Nunes daflu ffôn symudol “wedi’i amgryptio”, oedd ganddo’n anghyfreithlon, allan drwy ffenestr ei gell.
Clywodd y llys fod Morris wedi disgrifio’r honiadau yn ei herbyn fel rhai “hurt” ar ddechrau ymchwiliad yr heddlu.
Ond fe wnaeth Morris, 37 oed, o Holmer, Henffordd, bledio’n euog mewn gwrandawiad ym mis Mawrth i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ac annog Nunes i ddefnyddio dyfais waharddedig.
Fe wnaeth Nunes, o Gasnewydd, bledio’n euog yn Llys Ynadon Birmingham ym mis Chwefror eleni i ddwy drosedd o dan Ddeddf Carchardai 1952, sef meddu ar ffôn symudol heb ganiatâd a’i ddefnyddio.
Clywodd y llys fod gan y dyn 35 oed 23 o euogfarnau blaenorol am 31 o droseddau. Roedd yn Long Lartin yn bwrw dedfryd am drosedd yn ymwneud â chynllwyn cyffuriau, a gafodd yn Llys y Goron Caerdydd yn 2019.
Wrth roi’r ddedfryd, dywedodd y Barnwr Peter Carr wrth y diffynyddion: “Dim ond drwy ddedfryd o garchar ar unwaith y gellir rhoi cosb briodol.”
Dywedodd y Barnwr Carr wrth Morris, oedd wedi crio yn y doc ar ddechrau’r gwrandawiad ac wedi sychu ei llygaid â hances bapur: “Roeddech chi wedi bod yn gweithio yn y carchar ers mis Ionawr 2022.
“Roeddech chi’n gwbl ymwybodol o’ch cyfrifoldebau.”