Cyhoeddi enw dynes feichiog y cafwyd hyd i'w chorff mewn fan oedd ar dân

Samantha Natalie Phythian

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw'r ddynes y cafwyd hyd i'w chorff mewn fan oedd ar dân ym Mhrestatyn ar nos Sul, 4 Hydref.

Roedd Samantha Natalie Phythian, oedd yn cael ei hadnabod fel Sammi i'w theulu, yn 35 oed ac yn dod o'r Rhyl.

Mae archwiliad post-mortem wedi datgelu ei bod yn feichiog ar adeg ei marwolaeth.

Mae ei theulu wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf ac yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Nos Fercher cafodd Thomas Bell, 38 oed, o'r Rhyl, ei gyhuddo o'i llofruddio.

Fe wnaeth ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug fore dydd Gwener ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa.

Teyrnged teulu

Mewn teyrnged iddi, dywedodd teulu Samantha Phythian: "Mae ei marwolaeth drasig a chynamserol wedi gadael ei theulu a'i ffrindiau wedi'u hysgwyd yn llwyr, ac yn ei chael hi'n anodd derbyn colli rhywun a oedd yn golygu cymaint i gynifer. 

"Ni ddylai unrhyw deulu byth orfod dioddef y boen o golli aelod annwyl o dan y fath amgylchiadau.

"Er bod ei bywyd wedi dod i ben yn rhy fuan ac mewn ffordd greulon, ni fydd yr atgofion a greodd, y cariad a rannodd a'r bywydau y cyffyrddodd â nhw byth yn cael eu hanghofio. 

"Bydd y rhai a'i carai yn ei chofio'n annwyl am byth, a bydd colled fawr ar ei hôl."

Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd.

Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Zoie Dunkerley: “Mae fy meddyliau gyda theulu a ffrindiau Sammi. 

"Hoffwn hefyd annog y gymuned i fod yn ofalus ynghylch gwneud unrhyw sylwadau a fyddai’n ychwanegu at drallod y teulu neu’n ymyrryd â’r achos cyfreithiol gweithredol sy’n mynd yn ei flaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.