Teyrnged teulu i 'ŵr a thad cariadus' a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Môn
Mae teulu dyn 29 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pentraeth ym Môn ddiwedd Ionawr wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Arwyn Jones yn 29 oed ac o Lanfairpwll, a bu farw yn dilyn y digwyddiad ar ffordd yr A5025 ar 25 Ionawr.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei wraig Sioned: "Fel ei wraig, mae fy nghalon i wedi torri. Roedd Arwyn yn ŵr, tad, mab a brawd cariadus, ac fel teulu, mae ein bywydau ni wedi eu newid am byth yn dilyn ei golli.
"Roedd Arwyn a minnau wedi bod gyda'n gilydd ers dros 15 mlynedd ac ef oedd fy nghariad oes. Ein merch, Lilly, oedd ei fywyd. Mae ein byd wedi’i rwygo’n ddarnau.
"Fe fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un, ac roedd yn mwynhau ei waith fel cynorthwydd cegin mewn cartref gofal ym Mhentraeth, ble'r oedd yn gweithio ers mis Medi y llynedd."
Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion a gwybodaeth i gynorthwyo gyda'u hymchwiliad i'r digwyddiad a ddigwyddodd rhwng Pen-Y-Garnedd a garej Pentraeth Automotive.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng cerbyd llwyd Peugeot 208 a cherbyd Audi A5 Quattro aur.