Teyrnged teulu i ddyn fu farw wedi gwrthdrawiad gyda bws ger Llandeilo
Mae teulu dyn a fu farw ar ôl gwrthdrawiad ffordd rhwng car a bws ar yr A40 wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Ashley Wayne Keane, 38 oed, mewn gwrthdrawiad rhwng Llandeilo a Nantgaredig tua 16.25 ddydd Gwener 3 Gorffennaf.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys bws Scania a fan Ford Transit.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: “Rydym wedi torri ein calonnau’n llwyr ar ôl colli Ashley Wayne Keane mor sydyn ac mewn amgylchiadau mor drasig.
“Fe fydd yn aros yn ein calonnau am byth, a gofynnwn yn garedig am breifatrwydd wrth inni alaru ar ôl y golled ddinistriol hon.”
