Teyrnged i ddyn ifanc a fu farw ar daith Gwobr Dug Caeredin ym Mhowys

Umar

Mae teulu dyn ifanc a fu farw ar ôl mynd i afon ym Mhowys tra'r oedd ar daith Gwobr Dug Caeredin wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Umar Dumbuya, 18 oed o Lundain, ar ôl mynd i Afon Gwy yn ardal Y Clas-ar-Wy ger Y Gelli Gandryll wythnos yn ôl.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Mae ein calonnau wedi torri oherwydd colli ein mab, ein brawd a’n hŵyr

"Does dim geiriau i ddisgrifio’r boen rydyn ni’n ei deimlo fel teulu.

"Roedd Umar yn fachgen cariadus a bydd pawb oedd yn ei adnabod yn ei golli’n fawr."

Dywedodd ei deulu fod Umar wrth ei fodd yn chwarae pêl-fasged, yn mynd i’r gampfa ac yn treulio amser gyda ffrindiau a theulu.

“Byddwn ni bob amser yn cofio Umar am ei garedigrwydd, ei gynhesrwydd a’i synnwyr digrifwch. 

"Mae ei farwolaeth wedi gadael bwlch enfawr yn ein teulu, ac rydyn ni nawr yn gofyn am breifatrwydd wrth i ni gymryd amser i alaru.”

Yn dilyn y farwolaeth, dywedodd llefarydd ar ran Gwobr Dug Caeredin: "Rydym yn drist iawn i gadarnhau bod person ifanc wedi boddi tra ar daith Dug Caeredin ym Mhowys.

“Mae ein meddyliau gyda theulu’r person ifanc, ynghyd â phawb a oedd yn cymryd rhan.

“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi yn ystod yr amser anodd hwn.

"Mae Gwobr Dug Caeredin yn gweithio'n agos gyda choleg y person ifanc a'r awdurdodau perthnasol i ddeall sut ddigwyddodd y digwyddiad trasig yma."

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.