Teyrnged teulu i ddyn 20 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhwllheli
Mae teulu dyn 20 oed a fu farw ar ôl gwrthdrawiad ym Mhwllheli ddydd Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Elis Alan Ogilvy-Bardsley yn byw ym Mhwllheli efo'i fam, ei dad, ei chwaer iau a'i frawd.
Bu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A499 rhwng Llanaelhaearn a'r Ffor tua 22.10 nos Sadwrn
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng Ford Fiesta du ac Audi A3 coch.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw gyrrwr y Ford Fiesta yn y fan a'r lle, meddai'r heddlu.
'Gofalgar ac ystyriol'
Wrth roi teyrnged i Elis Alan Ogilvy-Bardsley, dywedodd ei deulu: "Roedd Elis yn fab, brawd, ŵyr, nai a chefnder gofalgar ac ystyriol.
"Byddwn ni'n colli ei wylio yn chwerthin, yn jocian a chwarae hefo'i frodyr a chwiorydd iau a oedd yn edrych i fyny ato fo ac wrth eu bodd hefo'r amser a dreulion nhw hefo'i gilydd yn cael hwyl.
"Roedd o'n mwynhau treulio amser hefo'i ffrindiau, yn teithio a chefnogi timau pêl-droed Cymru a Man United.
"Byddai'n aml i'w weld yn cellwair hefo'i gydweithwyr yn Asda ac wedi cael ei dderbyn i Brifysgol Bangor lle'r oedd yn edrych ymlaen at astudio'r Cyfryngau.
"Byddwn ni'n colli sut roedd yn goleuo pob ystafell am byth, sut y byddai pobl yn cael eu tynnu ato fo ac mai ef oedd bywyd ac enaid y parti bob amser.
"'Da ni wedi torri'n calonnau bod Elis wedi cael ei gymryd oddi wrthon ni mor drychinebus. Mae ein bywydau ni fel teulu wedi cael eu newid am byth.
"'Da ni'n gofyn bod ein preifatrwydd ni'n cael ei barchu wrth i ni ddod i delerau hefo'n colled ni."
'Aelod gwerthfawr o'r tîm'
Mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd archfarchnad Asda Pwllheli fore dydd Mawrth:
"Mae pawb yn Asda Pwllheli wedi torri’u calonnau o glywed bod Elis wedi’n gadael ni dros y penwythnos.
"Roedd Elis wedi bod yn rhan o deulu Asda Pwllheli ers bron i bedair blynedd, ac yn aelod gwerthfawr iawn o’r tîm. Mi fydd o’n cael ei golli’n arw gan ei ffrindia’ a’i gydweithwyr i gyd.
"Mae ein meddyliau ni a’n cydymdeimlad dwysaf efo teulu a ffrindiau Elis ar yr adeg anodd iawn yma."
Mae swyddogion yr heddlu yn parhau i gefnogi teulu Elis.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un allai helpu gyda'u hymchwiliad i gysylltu efo nhw trwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu y cyfeirnod 26000247901.