Scott Mills wedi cael ei holi am droseddau rhyw honedig yn erbyn bachgen o dan 16 oed

Scott Mills

Fe gafodd Scott Mills ei gwestiynu am honiadau o droseddau rhyw yn erbyn bachgen o dan 16 oed yn 2018, ond fe gafodd yr achos ei ollwng yn ddiweddarach yn sgil diffyg tystiolaeth, yn ôl datganiad gan yr heddlu.

Dywedodd Heddlu'r Met wrth y BBC fod dyn, a oeddyn ei 40au ar y pryd, wedi wynebu ymchwiliad yn sgil honiadau a ddigwyddodd yn honedig rhwng 1997 a 2000.

Yn ôl The Mirror, fe gafodd yr achos ei ollwng yn 2019 ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Gorlon ddatgan nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn cyhuddiadau. 

Cafodd y seren BBC Radio 2 ei ddiswyddo gan y BBC ar ôl honiadau am ei ymddygiad personol ddydd Llun. 

Dywedodd y BBC nad oedden nhw am “wneud sylw ar faterion sy’n ymwneud ag unigolion” ond eu bod nhw’n gallu “cadarnhau” ei fod “wedi gadael y BBC”.

Ychwanegodd y BBC nad ydyn nhw wedi rhoi unrhyw fanylion pellach am yr honiadau, ac nid yw'n glir pa ddylanwad os y gwbl y gwnaeth ymchwiliad yr heddlu ei gael wrth ei ddiswyddo.

Daeth ei raglen i ben am 09:30 ar ddydd Mawrth 24 Mawrth gyda’r neges: “Nôl yfory.”

Y bore wedyn dechreuodd Gary Davies y sioe gan ddweud ei fod yn “cadw sedd Scott Mills”.

Ymunodd Mills, 53, ag arlwy BBC Radio 2 yn ystod yr wythnos yn 2022 pan gymerodd le Steve Wright fel cyflwynydd y prynhawn.

Cyn BBC Radio 2, bu’n gweithio ar BBC Radio 1 ers 1998, a bu hefyd yn cyflwyno rhaglen benwythnos ar BBC Radio 5 Live.

Yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf y darlledwr, roedd Mills yn ennill rhwng £355,000 a £359,999 y flwyddyn.

Dywedodd Heddlu'r Met wrth BBC News: "Ym mis Rhagfyr 2016, fe ddechreuodd y Met ymchwiliad wedi atgyfeiriad gan lu heddlu arall.

"Roedd yr ymchwiliad yn ymwneud â honiadau o droseddau rhyw difrifol yn erbyn bachgen. Fe ddigwyddodd y rhain yn honedig rhwng 1997 a 2000. 

"Fel rhan o'r ymholiadau, fe gafodd dyn a oedd yn ei 40au ar adeg y cyfweliad, ei holi dan rybudd gan yr heddlu ym mis Gorffennaf 2018."

Ychwanegodd y llu fod ffeil lawn o dystiolaeth wedi cael ei chyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron, a benderfynodd nad oedd y trothwy o ran y dystiolaeth wedi'i gyrraedd i ddwyn cyhuddiadau.

"Yn dilyn y cyngor hwn, fe wnaeth yr ymchwiliad gau ym mis Mai 2019," meddai'r llu. 

Llun Scott Mills gan Jonathan Brady / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.