Lle mae’r petrol a’r disel rhataf yng Nghymru?

Pris petrol

Mae’r bwlch ym mhris tanwydd rhwng archfarchnadoedd a gwerthwyr eraill wedi tyfu yn ystod argyfwng olew Iran, yn ôl ystadegau newydd.

Dywedodd yr AA fod pris petrol mewn gorsafoedd archfarchnadoedd ar draws y DU ar gyfartaledd 7.6c y litr yn is yr wythnos diwethaf nag mewn safleoedd eraill.

Roedd y gwahaniaeth pris yn 5.4c cyn i’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ddechrau ar 28 Chwefror.

Roedd disel mewn archfarchnadoedd yr wythnos diwethaf ar gyfartaledd 8.8c yn rhatach nag mewn mannau eraill.

Mae’r prisiau cyfredol yng Nghymru yn adlewyrchu hynny.

Mae pob gorsaf yn y DU wedi bod yn gorfod rhoi gwybod am newidiadau pris i gronfa ddata Fuel Finder Llywodraeth y DU o fewn hanner awr i newid ers 2 Chwefror.

Yn ôl y wefan Fuel Finder UK, sy'n defnyddio'r data, mae’r petrol rhataf yng ngogledd Cymru gyda phris sydd wedi ei ddiweddaru o fewn y diwrnod diwethaf i’w gael yn archfarchnad Tesco Caergybi ac yn costio 146.9c y litr.

Mae petrol 147.5c hefyd i’w gael yng ngwasanaethau Smithy View yng ngogledd Wrecsam, ac 147.7c yn Asda Wrecsam.

Mae’r disel rhataf yn y gogledd gan gostio 175.9c yn Tesco Prestatyn, yn ôl Fuel Finder.

Yn y de, mae’r petrol rhataf gyda phris o 140.9c i’w gael yn Tesco Abertawe, ac 141.9c yn Tesco Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r disel rhataf yn y de gan gostio 169.9c yn Tesco Pont-y-pwl ac 170.9c yn Tesco Pen-y-bont ar Ogwr.

‘Pwysau’

Dywedodd yr AA fod y bwlch cynyddol mewn prisiau rhwng archfarchnadoedd a gorsafoedd petrol yn helpu i egluro pam roedd llawer o yrwyr wedi “cael eu denu at yr archfarchnadoedd” y penwythnos diwethaf, a hynny wedi rhoi “pwysau” ar eu cyflenwadau tanwydd.

Ychwanegodd Luke Bosdet, llefarydd yr AA ar brisiau wrth y pwmp: “Gan fod gyrwyr yn cael eu taro gan godiadau mawr mewn prisiau ers y tro diwethaf iddyn nhw lenwi, does dim syndod eu bod yn chwilio am y gorsafoedd rhatach.

“Mae pwysau ar gyflenwadau archfarchnadoedd ar y penwythnosau, ac mewn dinasoedd.”

Dywedodd y RAC fod pris cyfartalog litr o ddisel mewn gorsafoedd yn y DU ddydd Llun yn 181.2c.

Ddydd Mawrth, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi rhestr o rai o’r apiau a’r gwefannau prisiau tanwydd sy’n defnyddio data pris wrth y pwmp o’u cynllun Fuel Finder.

Maen nhw’n cynnwys Confused.com, DriveScore, Fuel Finder UK, Fuel Spy, MotorMouth, PetrolPrices.com a RAC Fuel Watch.

Dywedodd y Canghellor Rachel Reeves mai ei blaenoriaeth yw “amddiffyn cyllid teuluoedd a sefyll dros yrwyr”, a bod Fuel Finder yn “rhoi’r grym yn ôl yn eu dwylo”.

Aeth ymlaen: “Drwy roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar yrwyr iddyn nhw weld ble mae tanwydd rhataf yn lleol, gallan nhw osgoi cael eu gordalu a pharhau i lenwi fel arfer.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.