Dros draean y bobl cymwys yng Nghymru 'ddim yn cwlbhau prawf sgrinio canser y coluddyn'

John Woodland

Mae dyn sy'n dweud bod derbyn prawf sgrinio drwy'r post ar gyfer canser y coluddyn wedi achub ei fywyd wedi rhybuddio pobl eraill cymwys i sicrhau eu bod nhw'n cymryd mantais o'r gwasanaeth.

Daw cyngor John Woodland o Gaerffili wrth i ffigyrau ddangos nad yw dros draean o bobl cymwys yng Nghymru yn cwblhau eu prawf sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn ôl elusen Bowel Cancer UK. 

Fe wnaeth yr elusen edrych ar ddata sgrinio ar draws byrddiau iechyd y GIG, gan ddarganfod mai mai Bwrdd Iechyd Bae Abertawe (64.2%) a Chwm Taf Morgannwg (64.5%) oedd â'r ganran uchaf o bobl yn cymryd rhan mewn sgrinio. 

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (67.3%) a Bwrdd Iechyd Hywel Dda (67%) oedd â'r ganran uchaf o bobl yn cymryd rhan mewn sgrinio.

Dywed yr elusen mai Cymru sydd â'r cyfartaledd isaf o bobl sy'n cymryd rhan mewn sgrinio (65.5%) o'i gymharu â gwledydd eraill y DU, y tu ôl i Loegr (71%), yr Alban (65.7%), a Gogledd Iwerddon (67.3%). 

Er hyn, mae'r elusen yn cydnabod fod adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru wedi amlinellu bod carreg filltir sylweddol wedi ei chyrraedd drwy ehangu'r sgrinio i filoedd o bobl ar draws Cymru. 

Mae pobl rhwng 50 a 74 oed sy'n byw yng Nghymru yn cael eu gwahodd i wneud prawf sgrinio'r coluddyn bob dwy flynedd.

Cafodd John Woodland o Gaerffili ddiagnosis o ganser y coluddyn cam 2 ym mis Tachwedd 2023.

Nid oedd ganddo unrhyw symptomau o'r clefyd ond fe wnaeth gwblhau prawf sgrinio'r GIG.

Unwaith y cafodd ei atgyfeirio am golonosgopi, cafodd polypau eu tynnu o'i goluddyn, gyda biopsi'n cadarnhau bod ganddo ganser.

Cafodd Mr Woodland lawdriniaeth i dynnu rhan o'i goluddyn, yn ogystal â chael triniaeth cemotherapi.

"Peidiwch byth â meddwl eich bod wedi'ch heithrio rhag canser a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud unrhyw brofion sgrinio sydd ar gael," meddai.

"Nid oedd gen i unrhyw symptomau, ond diolch byth mai dim ond canser cam 2 oedd gen i pan gefais ddiagnosis. 

"Mae derbyn y prawf sgrinio drwy'r post o bosibl wedi achub fy mywyd."

'Cynharaf'

Dywedodd Genevieve Edwards, Prif Weithredwr Bowel Cancer UK: “Er bod gwaith gwych wedi'i wneud hyd yma o ran pobl sy'n cymryd rhan mewn sgrinio am ganser y coluddyn, mae'r ffigurau hyn yn dangos bod lle i wella nifer y bobl sy'n cael eu sgrinio ymhellach fyth.

“Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, ond sgrinio yw un o'r ffyrdd gorau o ganfod y clefyd yn gynnar neu gael gwared ar bolypau a allai ddatblygu'n ganser.

“Po gynharaf y mae'r canser yn cael ei ganfod, y mwyaf tebygol yw hi y gellir ei drin, gyda mwy na 9 o bob 10 o bobl yn goroesi'r clefyd pan maen nhw'n cael diagnosis ar y cam cynharaf.”

Llun: John Woodland

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.