Pryder am arwyddion newydd ar bont a gafodd ei chwalu gan storm
Mae cynghorydd wedi dweud ei fod yn “fwyfwy pryderus” am ddyfodol pont yn Sir Ddinbych a gafodd ei chwalu gan storm wedi i arwyddion 'dim ffordd drwodd' (dead end) gael eu gosod bob pen iddi.
Fe wnaeth Pont Llanerch dros Afon Clwyd ger Trefnant chwalu yn ystod Storm Christoph ym mis Ionawr 2021.
Pleidleisiodd y cyngor o blaid peidio â bwrw ymlaen â chynlluniau i ail-adeiladu'r bont y llynedd er bod £1.5 miliwn eisoes wedi ei wario ar y gwaith cynllunio.
Ond ym mis Ionawr eleni cyflwynodd trigolion ddeiseb, gyda mwy na 2,500 o lofnodion, yn galw am bont newydd i gysylltu cymunedau Tremeirchion, Trefnant, Cwm ac Y Waen.
Dywedodd y trigolion fod diffyg pont yn golygu teithiau hirach, mwy o gost tanwydd i drigolion, a niwed i fusnesau.
Ar ôl hynny, cadarnhaodd y cynghorydd Barry Mellor, aelod cabinet dros yr amgylchedd a thrafnidiaeth, ei fod ef a’r cyngor yn agored i dderbyn cynigion newydd am bont newydd i weld a oeddent yn ymarferol.
Ond ers hynny, mae’r cyngor wedi codi arwyddion 'dim ffordd drwodd' bob ochor i’r bont.
Mae cynghorydd Tremeirchion, Chris Evans, wedi ysgrifennu at y Cynghorydd Mellor i godi pryderon am yr arwyddion newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Evans: “Rwy’n ysgrifennu i fynegi fy mhryder cynyddol a fy siom ynglŷn â gosod yr arwyddion ‘dim ffordd drwodd’ ar y ddwy ochr i’r bont, sydd i bob pwrpas yn atal mynediad drwodd.
“Mae gweld camau fel hyn yn cael eu cymryd ar hyn o bryd yn hynod siomedig. Mae’n dangos, yn fy marn i, ddiffyg dealltwriaeth o bwysigrwydd a’r angen i adfer y bont hon i’r cymunedau yn fy ward i.
“Mae hyn yn arbennig o bryderus o ystyried cryfder teimlad lleol, fel y gwelwyd yn y ddeiseb gan fwy na 2,000 o drigolion a fynegodd yn glir eu cefnogaeth i gadw’r cyswllt pwysig hwn.”
Ymateb
Dywedodd y cyngor mai pwrpas yr arwyddion oedd “adlewyrchu cynllun presennol y ffordd”.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: “Ar ôl i’r bont gwympo, mae nifer o arwyddion traffig wedi aros ar y rhwydwaith ffyrdd yn cyfeirio modurwyr at Drefnant a Thremeirchion drwy hen safle’r bont.
“Mae’r arwyddion presennol wedi cael eu hadolygu, ac mae’r newidiadau arfaethedig yn sicrhau bod yr arwyddion yn adlewyrchu cynllun presennol y ffordd yn gywir.
“Mae’r gwaith yn cynnwys newid yr arwyddion presennol, ynghyd â gosod arwyddion ‘Dim Ffordd Drwodd’ ar ddwy ochr hen safle’r bont i adlewyrchu’r drefn bresennol.
“Mae arwyddion cywir yn helpu i sicrhau bod pobl yn teithio’n ddiogel ar y ffyrdd, ac maen nhw yno i helpu modurwyr i ddefnyddio’r rhwydwaith ffyrdd fel y mae ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd: “Mae’n bwysig nodi nad yw’r gwaith hwn yn rhan o unrhyw broses ffurfiol i gau’r ffordd, ac mae’n cael ei wneud i adlewyrchu cynllun presennol y ffordd ar hyn o bryd.”