Arestio tri mewn cysylltiad â bygythiad bom ffug i rai o ysgolion uwchradd Caerdydd
Mae Heddlu'r De wedi arestio tri o bobl mewn cysylltiad â bygythiad bom ffug i ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd.
Dywed yr heddlu fod y tri wedi eu harestio mewn cysylltiadau â bygythiadau a ddigwyddodd rhwng 15 a 18 Mawrth.
Daeth penderfyniad i gau Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Eastern High School fel cam diogelwch tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Mewn diweddariad ddydd Mawrth, dywedodd y llu fod dau oedolyn, sef dynes 44 oed a dyn 47 oed, a bachgen 12 oed o Birmingham, wedi eu harestio ar amheuaeth o fygythiad bom ffug (bomb hoax) yn groes i Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977.
Maen nhw'n parhau yn y ddalfa yn ôl yr heddlu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Tom Williams: "Rydym yn deall y pryder sylweddol y mae’r digwyddiad hwn wedi’i achosi i rieni a’r gymuned.
"Rydym yn cymryd yr adroddiadau hyn o ddifrif ac mae ymchwiliadau yn parhau.
"Hoffwn hefyd roi sicrwydd i deuluoedd nad oes tystiolaeth o hyd bod unrhyw un sy’n mynychu unrhyw un o’r ysgolion dan sylw yn fygythiad.
"Rydym yn parhau i weithio yn agos gyda'n partneriaid ac yn diolch i'r ysgolion, y rhieni a'r gymuned ehangach am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth."