Teyrnged Clwb Rygbi Aberteifi wedi marwolaeth un o'u chwaraewyr iau
Mae Clwb Rygbi Aberteifi yng Ngheredigion wedi rhoi teyrnged i un o'u chwaraewyr iau yn dilyn ei farwolaeth.
Cafodd Louis Hess Cramp ddiagnosis o ganser yn asgwrn y forddwyd (femur) yn 12 oed ym mis Hydref 2024.
Mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd y clwb y bydd Louis yn cael ei "golli'n fawr".
"Daeth Louis yn rhan o deulu Clwb Rygbi Aberteifi yn ddim ond saith oed, a bydd ganddo le arbennig yn ein clwb am byth," meddai'r datganiad.
"Fe wnaeth ei gynhesrwydd, ei ymroddiad a'i gariad at y gêm gyffwrdd â chymaint o bobl, a bydd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei golli'n fawr.
"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu Louis, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a'i hyfforddwyr yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn."
Ychwanegodd: "Fel clwb, rydym yma i gefnogi ein gilydd. Os ydych yn cael trafferth, neu os hoffech siarad gyda rhywun, peidiwch ag oedi cyn estyn allan.
"Un clwb ydym ni, un teulu, a byddwn yn dod drwy hyn gyda'n gilydd.
"Gorffwys mewn hedd, Louis. Ni chei dy anghofio fyth."
Yn gynharach eleni, cafodd mwy na £20,000 ei godi er mwyn galluogi Louis a'i deulu i deithio i Awstralia, wrth iddo barhau â'i frwydr yn erbyn y clefyd.
Mewn datganiad ar wefan JustGiving ar ddechrau'r ymgyrch, dywedodd mam Louis, Sherrelle: "Pan oedd Louis yn wael y llynedd, ein gobaith oedd cael mynd ag ef i deimlo'r haul ar ei esgyrn, cael sblasio yn y môr a gweld ein teulu yn Awstralia.
"Roedden ni'n bwriadu mynd unwaith y byddai wedi gwella, ond roedd gan y bydysawd gynlluniau eraill.
"Felly, mae'n rhaid i ni helpu Louis a Josie i greu atgofion a fydd yn para am oes.
"Mae'n bryd iddo fyw ei fywyd i'r eithaf."
Mae Rygbi Clwb Castell Newydd Emlyn hefyd wedi cyhoeddi datganiad yn dweud eu bod yn hynod o drist o glywed am farwolaeth Louis Hess Cramp.
"Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwsyaf at ei deulu a'i anwyliaid. Mae ein meddyliau gyda'i gyd-chwaraewyr a phawb a gafodd y fraint o'i adnabod," meddai llefarydd ar ran y clwb.
Llun: Clwb Rygbi Aberteifi