Crasfa i Gymru yn erbyn Sbaen yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Euro Dan-19

Gem agoriadol Pencampwriaeth Euro Dan-19 yn Wrecsam

Mae Cymru wedi colli 7-0 yn erbyn Sbaen yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Euro Dan-19 UEFA ar y Cae Ras yn Wrecsam.  

Cymru sy'n cynnal y gystadleuaeth eleni gyda phedwar maes pêl-droed yn y gogledd yn llwyfannu'r gemau, yn Ninbych, Caernarfon, Bangor a Wrecsam. 

Dyw Cymru erioed wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol Euro Dan-19 tan eleni. 

O dan arweiniad ei rheolwr presennol, Chris Gunter, llwyddodd y tîm i gyrraedd y rownd elît ar gyfer y bencampwriaeth Euro ddiwethaf yn 2025, ond methodd Cymru fynd gam ymhellach i'r rowndiau terfynol. 

Cyn yr ornest nos Sul, roedd timau Dan-19 Cymru a Sbaen wedi wynebu ei gilydd ddwywaith, gyda Sbaen yn fuddugol ar y ddau achlysur yn 2009 a 2019.

O flaen torf o fwy na 3,600 yn yr heulwen ar y Cae Ras nos Sul, roedd hi yn ddi-sgor yn ystod chwarter awr cyntaf y gêm cyn i ergyd Daniel Yañez gyrraedd cefn y rhwyd. 

Gydag ergyd rymus Xavi Espart, daeth ail gôl Sbaen wyth munud yn ddiweddarach. 

Ac yna o fewn dwy funud, daeth y drydedd gôl gan Morante. 

Ac fe sgoriodd Morante ei ail gôl wedi hanner awr o chwarae. 

Roedd hi'n 4-0 hanner amser. 

O fewn eiliadau cyntaf yr ail hanner, sgoriodd Sbaen eto gyda gôl gampus y capten Quim Junyent.   

Daeth gôl arall gan Sergio Esteban cyn i Diego Aguado sgorio seithfed gôl Sbaen. 

7-0 oedd y sgôr terfynol.       

Yn wynebu Sbaen, yr Almaen a Denmarc, mae Cymru mewn grŵp heriol yn erbyn tri thîm a oedd yn cystadlu yn y bencampwriaeth yn 2025. 

Mae Sbaen wedi ennill y bencampwriaeth yn amlach nag unrhyw wlad arall

Roedden nhw yn bencampwyr ddiwethaf yn 2024.

Bydd gêm nesaf Cymru yn erbyn Yr Almaen ar 1 Gorffennaf am 20:00 ar y Cae Ras yn Wrecsam, gyda'r gêm olaf yn y grŵp hefyd ar y Cae Ras yn erbyn Denmarc ar 4 Gorffennaf am 14:00. 
 

   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.