Adrannau brys Bwrdd Iechyd Hywel Dda o dan 'bwysau sylweddol' nos Sul

Ysbyty Glangwili

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog y cyhoedd i ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd mwyaf priodol wrth i'w hadrannau achosion brys wynebu "pwysau sylweddol" nos Sul.

Dywedodd bwrdd iechyd y canolbarth a'r gorllewin y dylai pobl fynd i adran achosion brys "dim ond os oes ganddynt salwch sy'n peryglu bywyd neu anaf difrifol", gan fod gwasanaethau eraill ar gael i "ddarparu'r gofal mwyaf priodol mewn llawer o achosion".

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Mae ein hadrannau achosion brys ar draws pob safle, ac yn arbennig yn Ysbyty Glangwili ac yn ein Huned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip, dan bwysau sylweddol heno.

"Rydym yn gofyn i bobl helpu ni i helpu chi - ewch am y gofal cywir yn y lle cywir."

Mae'r bwrdd iechyd yn atgoffa'r cyhoedd mai GIG 111 Cymru ddylai fod y man cyswllt cyntaf i unrhyw un sy'n teimlo'n sâl ond sy'n ansicr ble i fynd am gymorth.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gallu rhoi cyngor arbenigol a chyfeirio cleifion at y gwasanaeth cywir.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn pwysleisio y dylid ffonio 999 bob amser os yw'n argyfwng difrifol neu'n sefyllfa sy'n peryglu bywyd.

Ar gyfer cymorth iechyd meddwl, meddai, mae gwasanaeth GIG 111 Cymru ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Ychwanegodd y bwrdd iechyd y gall teuluoedd hefyd chwarae rhan wrth leihau'r pwysau ar ysbytai.

"Os oes gennych chi berthynas neu anwylyn yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael ei ryddhau gyda gofal-cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch chi eu helpu i gyrraedd adref yn gynt os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i'w cefnogi gartref," meddai.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.