Tebygol mai ‘ymosodiad’ oedd ‘digwyddiad seiber’ y DWP - cyn-bennaeth technoleg
Mae digwyddiad seiber difrifol a orfododd y Llywodraeth i dynnu gwasanaethau budd-daliadau a phensiynau oddi ar-lein yn “ymosodiad yn ôl pob tebyg”, yn ôl cyn-brif swyddog technoleg y DU.
Bu’n rhaid i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) dynnu rhai o’i systemau oddi ar-lein ar ôl y digwyddiad fore Gwener, ac roedd gwasanaethau'n parhau i fod lawr nos Wener.
Dywedodd Downing Street nad oedd tystiolaeth bod unrhyw un â "bwriad maleisus" wedi targedu adrannau eraill o’r Llywodraeth, ond dywedodd David Knott, a oedd yn arwain gwaith technoleg y Llywodraeth tan fis Rhagfyr 2025: “Rwy’n amau’n gryf mai ymosodiad oedd hwn.”
Dywedodd wrth raglen Newsnight y BBC: “Rwy’n credu bod y Llywodraeth wedi bod yn synhwyrol iawn wrth ddefnyddio iaith eithaf manwl a dibynnu’n helaeth ar dystiolaeth wrth adrodd am y digwyddiad.
“Ar yr un pryd, mae rhywfaint o’r iaith honno’n awgrymu i mi ei bod hi'n debygol mai ymosodiad ydy o.
“Maen nhw wedi defnyddio’r gair ‘seiber’, sydd fel arfer yn golygu mai ymosodiad oedd yma... Rwy’n amau’n gryf mai ymosodiad yw hwn.”
Mae’r DWP yn gwneud tua 2.5 miliwn o daliadau rheolaidd bob dydd, ac yn ôl adroddiadau, dyw’r oedi presennol wrth brosesu rhai taliadau ddim yn gysylltiedig â’r digwyddiad seiber.
Dywedodd llefarydd ar ran y DWP: “Rydym wedi tynnu rhai o wasanaethau’r DWP oddi ar-lein fel mesur rhagofal yn dilyn y digwyddiad seiber.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a Chanolfan Cydlynu Seiber y Llywodraeth i ymchwilio ac i sicrhau bod gwasanaethau ar gael ar-lein eto cyn gynted â phosibl i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar bobl.
“Nid yw taliadau budd-daliadau a phensiynau rheolaidd wedi cael eu heffeithio a byddant yn cael eu talu fel arfer. Dylai unrhyw un sy’n profi oedi neu broblemau eraill gyda thaliadau ffonio ein llinellau cymorth yn y ffordd arferol.
“Wrth i ni weithio i adfer ein gwasanaethau ar-lein yn ddiogel, ni fydd cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y digwyddiad hwn yn wynebu sancsiynau,” meddai.
Inline Tweet: https://twitter.com/DWPgovuk/status/2126407970984468710
Dywedodd Rhif 10 yn gynharach ddydd Gwener fod gwaith yn cael ei wneud “cyn gynted â phosibl” i adfer gwasanaethau, ar ôl i filiynau o bobl sy’n hawlio budd-daliadau fethu â chael mynediad at eu cyfrifon neu wneud cais am fudd-daliadau ar-lein, er bod taliadau pensiynau a budd-daliadau rheolaidd yn parhau.
Mae Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol GCHQ ac arbenigwyr y Llywodraeth yn ymchwilio i’r ymosodiad seiber tybiedig, ar ôl i weithgarwch anarferol gael ei ganfod am y tro cyntaf ddydd Iau, gan arwain at benderfyniad yr DWP i dynnu rhai systemau oddi ar-lein fel “mesur rhagofal”.
Y digwyddiad yw’r diweddaraf mewn cyfres hir o ddigwyddiadau seiberddiogelwch sydd wedi effeithio ar y DU yn ddiweddar.
Yn gynharach y mis hwn, dywedodd nifer o gyflenwyr cig yn y DU fod tymheredd eu hoergelloedd wedi codi dros nos, ar ôl iddynt gael eu heffeithio gan ymosodiadau seiber a oedd yn targedu meddalwedd sy’n cael ei ddefnyddio gan archfarchnadoedd ledled Ewrop.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r manwerthwyr ffasiwn Next ac ASOS ill dau wedi adrodd am ddigwyddiadau ar wahân lle cafwyd fynediad at rywfaint o ddata heb awdurdod.
Dywedodd corff gwarchod diogelu data’r DU ei fod mewn cysylltiad â’r DWP ynglŷn â’r digwyddiad.
Llun: PA
