Yr adran gwaith a phensiynau yn atal rhai gwasanaethau ar-lein ar ôl 'digwyddiad seiber'

Adran Gwaith a Phensiynau

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi gorfod tynnu rhai o’i systemau oddi ar-lein ar ôl "digwyddiad seiber".

Dywedodd yr adran, sy’n gyfrifol am redeg y system les, ei bod yn gweithio gyda Chanolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol GCHQ ac arbenigwyr y llywodraeth i ymchwilio i’r digwyddiad.

Dywedodd swyddogion y byddai pensiynau a budd-daliadau’n cael eu talu fel arfer.

Mewn datganiad ar ei gwefan, dywedodd yr adran: “Rydyn ni wedi tynnu rhai o wasanaethau ar-lein y DWP oddi ar-lein fel rhagofal ar ôl i ni ganfod digwyddiad seiber sy’n effeithio ar ein systemau.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a Chanolfan Cydlynu Seiber y Llywodraeth i ymchwilio i’r digwyddiad, i sicrhau bod y gwasanaethau ar gael ar-lein eto cyn gynted â phosib ac i darfu cyn lleied â phosib ar bobl.

“Does dim effaith ar daliadau rheolaidd budd-daliadau a phensiynau, a byddan nhw’n cael eu talu fel arfer.

“Os nad yw gwasanaeth ar-lein sydd ei angen arnoch chi ar gael, ceisiwch eto yn nes ymlaen.

“Fel bob amser, fyddwn ni byth yn anfon neges atoch chi i ofyn am eich manylion banc nac i ofyn i chi glicio ar ddolenni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.