Beth yw’r ddadl fawr am hawl Joe Martin i siarad yn y Senedd?
Mae Joe Martin AS am i farnwr ddiddymu’r gwaharddiad sydd wedi ei atal rhag siarad yn Siambr Senedd Cymru ers 10 Tachwedd.
Mae’r aelod Reform UK dros Gaerdydd Penarth yn gwrthod ymddiheuro am honni bod pobl wyn o Brydain yn cael eu disodli yn y DU.
Ond beth yw cefndir y ddadl?
Y cwestiwn am fewnfudo
Gofynnodd Mr Martin i’r Trefnydd, Heledd Fychan, am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn a alwodd yn “y disodli demograffig o bobl wyn Prydain”.
Oherwydd mewnfudo a gwahaniaethau mewn cyfraddau geni, meddai, byddai pobl wyn o Brydain yn lleiafrif yn y DU erbyn 2063.
"Mae'r newid hwnnw eisoes wedi digwydd yn Llundain, Birmingham, Caerlŷr, Slough, Luton a Manceinion, a dydw i ddim eisiau iddo ddigwydd yma," meddai.
“Nid yw cenedl yn barth economaidd, nid yw'n westy, ac nid yw'n elusen ychwaith. Mae'n deulu, sy'n gallu amsugno pobl o bob hil os caiff ei wneud ar gyfradd synhwyrol, ond ddim os caiff ei ddisodli yn gyfan gwbl.”
Wnaeth Mr Martin ddim enwi ffynhonnell ar gyfer ei honiad y byddai pobl wyn yn lleiafrif yn y DU yn y Siambr. Mae 2063 yn cyfateb i amcangyfrif a gyhoeddodd yr academydd Matt Goodwin yn 2025, cyn iddo sefyll mewn is-etholiad dros Reform UK.
Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol nad yw’n ystyried twf y boblogaeth yn y dyfodol yn ôl grŵp ethnig.
Dyfarniad y Llywydd
Gofynnodd y Trefnydd i’r Dirprwy Lywydd, Kerry Ferguson, a oedd y sylwadau’n torri rheolau’r Senedd.
Ar ôl trafod â’i ddirprwy a darllen y cofnod, dywedodd y Llywydd, Huw Irranca-Davies, fod lle i holi am bolisi mewnfudo er nad oedd yn bwnc oedd wedi ei ddatganoli i’r Senedd.
Ond roedd y pwyslais ar hil ac ethnigrwydd, meddai, “yn amlwg yn wahaniaethol, yn sarhaus ac yn niweidio urddas y Senedd”.
O dan Reol Sefydlog 13.9, rhaid i’r Llywydd alw aelod i drefn am ddefnyddio iaith wahaniaethol neu sarhaus.
Roedd eisoes wedi rhybuddio Mr Martin yn ysgrifenedig ym mis Medi am dorri’r un rheol.
Wnaeth y Llywydd ddim pennu dyddiad y byddai y gwaharddiad ar Mr Martin yn dod i ben.
Dywedodd y byddai’n rhaid i Mr Martin ymddiheuro i’r Siambr a dangos ei fod yn deall pa ymddygiad sy’n dderbyniol cyn cael siarad yno eto.
Mae’n dal i gael pleidleisio a chymryd rhan mewn pwyllgorau.
Y boicot
O ganlyniad i’r gwaharddiad ar Mr Martin, dechreuodd Reform, y brif wrthblaid, foicotio dadleuon yn y Siambr ar 11 Tachwedd.
Parhaodd ei haelodau i bleidleisio a mynd i bwyllgorau. Ond o ganlyniad i’r boicot, doedd neb o Reform yn y Siambr i holi’r llywodraeth am ei chyllideb ddrafft ar 17 Tachwedd.
Dywedodd Helen Jenner, arweinydd Reform yng Nghymru, ei bod wedi disgwyl cytundeb a fyddai’n gadael i Mr Martin siarad heb ymddiheuro. Honnodd fod pwysau o’r tu allan wedi dylanwadu ar y Llywydd.
Dywedodd Comisiwn y Senedd fod y Llywydd wedi trafod â hi’n ddidwyll, a gwadodd ffynhonnell agos ato wrth ITV Cymru Wales fod cyrff allanol wedi dylanwadu ar ei benderfyniad.
Y ddadl a’r bleidlais
Daeth Reform yn ôl i’r Siambr ar 24 Tachwedd. Wrth gynnig diswyddo’r Llywydd y noson honno, dywedodd Ms Jenner mai sôn am sut mae mewnfudo’n newid y boblogaeth oedd Mr Martin.
Roedd yn barod i gydnabod bod rhai wedi camddeall ei eiriau, meddai. Dadl prif chwip Reform, Llŷr Powell, oedd y dylai’r rhai sy’n anghytuno â Mr Martin ei herio mewn dadl.
Fe ymatebodd Carrie Harper ar ran Plaid Cymru fod y gair “disodli” a ddefnyddiodd Mr Martin yn adleisio damcaniaeth y ‘disodli mawr’ – great replacemeny theory yn Saesneg.
Mae’r ddamcaniaeth gynllwyn hon, sy’n gysylltiedig â’r dde eithafol, yn honni bod cynllun i ddisodli poblogaethau gwyn.
“Beth am bobl sy’n Gymry ond sydd ddim yn wyn, fel aelodau o fy nheulu i? Ydyn nhw’n cymryd ein lle ni?” gofynnodd.
Dadleuodd y Llywydd yn yr un ddadl fod rheolau’r Siambr yn diogelu hawl pob aelod i gael ei glywed. Maen nhw’n rhoi cyfle i aelod o’r meinciau cefn herio gweinidog, meddai, ac i’r lleiafrif herio’r mwyafrif.
Ond mynnodd bod “safonau” ac “ymddygiad” yn bwysig hefyd a’u bod nhw ar y cyd fel Senedd wedi penderfynu ar y rheolau.
Pleidleisiodd 55 yn erbyn cynnig Reform i ddiswyddo’r Llywydd a 29 o’i blaid. Roedd pob un o’r 29 yn aelodau o Reform, gan gynnwys Mr Martin ei hun.
Doedd rhai ASau ddim yn bresennol, ond wnaeth neb ymatal.
Yr her gyfreithiol
Mae’r Free Speech Union yn dweud eu bod nhw bellach wedi anfon llythyr cyn hawliad at Gomisiwn y Senedd ar ran Mr Martin yn gofyn am godi’r gwaharddiad.
Mae’r undeb yn dadlau bod y Llywydd wedi mynd y tu hwnt i’w bwerau. Mae’n dweud bod atal Mr Martin rhag siarad a mynnu ymddiheuriad yn torri ei hawl i ryddid mynegiant o dan Erthygl 10 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
“Y cyfan dw i eisiau ei wneud yw cynrychioli fy etholwyr,” meddai Mr Martin wrth gyhoeddi ei fwriad i herio’r penderfyniad.
Yn ôl y Telegraph, doedd llefarydd ar ran y Senedd ddim am wneud sylw ar yr her gyfreithiol.
Mae’r llythyr yn rhoi cyfle i’r Comisiwn ymateb cyn i Mr Martin wneud cais ffurfiol am adolygiad barnwrol.
Pe bai’r achos yn mynd gerbron barnwr, y cwestiwn fyddai a oedd y Llywydd wedi gweithredu’n gyfreithlon.
Ar hyn o bryd, mae’r gwaharddiad yn dal mewn grym.