'Hynod anghyfforddus': Gweinidog yn beirniadu rhaglen ddogfen newydd am Huw Edwards
Mae gweinidog yn Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn “hynod anghyfforddus” gyda rhaglen ddogfen newydd am Huw Edwards ar Channel 4.
Bydd 'Huw Edwards - Guilty' yn dilyn y cyn-gyflwynydd newyddion yn ei fywyd bob dydd ar ôl iddo gael ei ddyfarnu’n euog o wneud delweddau anweddus o blant.
Cafodd y rhaglen ei ffilmio dros gyfnod o bron i flwyddyn, ac mae’n dilyn Mr Edwards yn ei gartref yng nghefn gwlad Cymru ar ôl i’w yrfa newyddiadurol yn Llundain ddod i ben.
Dywedodd Anna Turley, y gweinidog dros ddiogelwch ffiniau a lloches, wrth LBC ei bod yn "teimlo fel bod cymaint o’r bobl yma sydd yn llygad y cyhoedd wedi cael gwneud fel y mynnan nhw, fwy neu lai, ers gormod o amser”.
“Does neb wedi eu dal nhw i gyfrif, ac maen nhw wedi cael gwneud pethau sy’n gwbl annerbyniol ac yn anghyfreithlon heb orfod ateb amdanyn nhw," meddai’r AS Llafur.
“Dw i’n meddwl ein bod ni’n dysgu cymaint ers mudiad MeToo, drwy’r hyn rydyn ni wedi’i weld yn achos Huw Edwards ac yn achos Brand yn ystod yr wythnosau diwethaf.
“Dw i’n gobeithio ein bod ni’n dechrau gweld newid yn y cydbwysedd nawr, fel na all pobl ymddwyn fel hyn mwyach.”
Dywedodd Sangita Myska, cyn gyflwynydd Radio 4, ei fod yn “warthus” bod yna “ymgais i adfer enw da Huw Edwards drwy raglen ddogfen sy’n ei ddangos ar ‘siwrne bersonol’”.
“Beth ar y ddaear oedd yn mynd drwy ben Channel 4?”
Dywedodd Mark Williams-Thomas, cyn-dditectif gyda’r heddlu, fod agwedd Edwards yn y rhaglen ddogfen, a fydd yn cael ei darlledu ddydd Mawrth, yn rhoi “achos pryder difrifol”.
“Dydy e ddim yn cymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd, am y niwed mae ei gamdriniaeth wedi’i achosi nac am fwrw’r bai ar eraill,” meddai.
“Dydy ei iechyd meddwl ddim yn rheswm dros ei droseddau.”
'Pwysig'
Mae Channel 4 wedi amddiffyn y rhaglen. Dywedodd Sacha Mirzoeff, uwch olygydd comisiynu’r sianel, fod y ffilm yn ceisio cael atebion gan Edwards am y ffordd yr oedd wedi camddefnyddio ei rym.
Dywedodd y cyfarwyddwr Patrick Forbes ei bod hi’n “ffilm bwysig i’w gwneud” gan ei bod yn codi cwestiynau am ein hagwedd at enwogion, grym y cyfryngau, troseddu a chosbi.
Roedd Edwards yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno News at Ten y BBC am ddegawdau, a thorri newyddion mawr gan gynnwys marwolaeth y Frenhines Elizabeth II.
Ym mis Gorffennaf 2023, fe gyhoeddodd The Sun honiad bod un o “brif sêr y BBC” wedi talu rhywun yn ei arddegau am luniau rhywiol.
Rai dyddiau’n ddiweddarach, fe gadarnhaodd gwraig Edwards mai ei gŵr hi oedd y cyflwynydd dan sylw.
Fe ymddiswyddodd Huw Edwards o'r BBC ym mis Ebrill 2024. Cafodd ei gyhuddo ym mis Mehefin y flwyddyn honno ar ôl ymchwiliad gan Heddlu'r Met.
Fis yn ddiweddarach, fe wnaeth gyfaddef ei fod wedi gwneud delweddau anweddus o blant a bod ganddo 41 o luniau anweddus ar WhatsApp.
Roedd saith ohonyn nhw yn y categori mwyaf difrifol.
Cafodd ddedfryd o chwe mis o garchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd.
Fe fydd 'Huw Edwards - Guilty' yn cael ei darlledu ar Channel 4 ar 1 Rhagfyr.