Miloedd o gwsmeriaid cwmni ffasiwn ASOS wedi derbyn neges hacio
Mae miloedd o gwsmeriaid ASOS wedi derbyn rhybudd ar eu ffonau symudol yn dweud bod y cwmni ffasiwn wedi cael ei hacio.
Fore Mawrth, cafodd cwsmeriaid neges gan yr ap yn nodi “Asos hacked”, oedd yn eu cyfeirio at gyfrif Telegram.
Mae pris cyfranddaliadau’r cwmni wedi gostwng mwy na 10% fore Mawrth o ganlyniad i’r newyddion.
Nid yw'r cwmni wedi gwneud sylw eto.
Mae’r hacio honedig yn ymwneud â’r cwmni Snowflake, sy’n storio data ar gyfer nifer o gwmnïau mawr.
Mae gan ASOS, sydd yn berchen ar frandiau gan gynnwys Topshop a Miss Selfridge, 17 miliwn o gwsmeriaid ledled y byd.
Ar hyn o bryd mae'r cwmni yn ceisio newid y ffordd y mae'n gweithredu mewn ymgais i atal gostyngiad mewn gwerthiant, a dychwelyd i wneud elw.
Daw'r achos diweddaraf, wedi i nifer o gwmniau Prydeinig gael eu targedu mewn ymosodiadau seibr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, Marks & Spencer a Harrods yn eu plith.
