Caernarfon yn teithio i'r Barri yn y Cymru Premier
Mae'r ras am le yn y Chwech Uchaf yn dwysáu wrth i glybiau'r Cymru Premier nesáu at yr hollt, gyda dwy gêm i'w cynnal ddydd Sadwrn.
Dim ond dau bwynt sy'n gwahanu'r Barri a Chaernarfon cyn i'r ddau glwb wynebu ei gilydd ar Barc Jenner mewn gornest allweddol yn y ras am le yn hanner uchaf y tabl.
Ym mhen arall y tabl, bydd Treffynnon yn chwilio am eu buddugoliaeth gynghrair gyntaf ers eu dyrchafiad wrth groesawu Llandudno, sydd heb ennill yn eu 10 gêm gynghrair ddiwethaf.
Y Barri (7fed) v Caernarfon (5ed) | Dydd Sadwrn – 12:30
Dau bwynt sy’n gwahanu’r clybiau yn y ras am y Chwech Uchaf, ac felly fydd hi’n gêm allweddol ar Barc Jenner brynhawn Sadwrn.
Dyw’r Barri heb golli yn eu pedair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ond mae tair o’r rheiny wedi gorffen yn gyfartal (wedi 90 munud).
Ar ôl colli dwy yn olynol (vs Airbus a Phen-y-bont), mae Caernarfon wedi troi’r gornel drwy guro Treffynnon a Cei Connah yn eu dwy gêm ddiwethaf.
Mae’r Barri wedi ennill eu tair gornest ddiwethaf yn erbyn y Cofis yn cynnwys buddugoliaeth o 0-1 ar yr Oval ym mis Hydref, ble sgoriodd Noah Daley unig gôl y gêm.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ͏❌❌✅➖➖
Caernarfon: ͏✅✅❌❌✅
Treffynnon (16eg) v Llandudno (11eg) | Dydd Sadwrn – 17:15
Dros hanner ffordd at yr hollt a dyw Treffynnon yn dal heb ennill gêm gynghrair ers eu dyrchafiad, gan sicrhau dim ond dau bwynt o’r 51 posib hyd yma.
Mae tîm John Haseldin wedi ildio cyfartaledd o 3.35 gôl y gêm gan golli eu chwe gêm gynghrair ddiwethaf.
Er dechrau’n addawol, dyw pethau heb fynd yn llyfn i Llandudno chwaith, gyda charfan Sir Conwy ar rediad o 10 gêm gynghrair heb ennill (cyfartal 2, colli 8).
Mae Llandudno wedi colli saith o’u wyth gêm oddi cartref yn y gynghrair y tymor yma, ond fe enillon nhw y gêm gyfatebol yn erbyn Treffynnon ar Barc Maesdu ym mis Awst o 3-1.
Mae’r gemau rhwng y ddau glwb yma yn tueddu i fod yn rhai tanllyd, gyda phedwar cerdyn coch wedi eu dangos yn y tair gêm ddiwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Treffynnon: ͏❌❌❌❌❌
Llandudno: ͏❌❌❌❌➖
