Tân Trecelyn: Rhyddhau menyw ar fechnïaeth
Mae menyw a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol wedi i chwech o gartrefi gael eu difrodi yn Sir Caerffili ddydd Mercher diwethaf wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Cafodd rhai o'r tai yn ardal Cefn-y-pant yn Nhrecelyn eu dinistrio'n llwyr gan y fflamau, a bu'n rhaid i 32 o gartrefi gael eu gwacáu.
Chafodd neb ei anafu.
Cyhoeddodd Heddlu Gwent brynhawn Iau bod menyw 29 oed o Drecelyn wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol.
Mewn diweddariad brynhawn Llun, nododd y llu ei bod hi bellach wedi ei rhyddhau o'r ddalfa a bod yr ymchwiliad yn parhau.
Wrth gyhoeddi yr wythnos diwethaf bod y fenyw wedi cael ei harestio, dywedodd John Davies, Prif Uwcharolygydd Heddlu Gwent, bod dim cysylltiad rhwng y tân a thanau gwyllt sydd wedi bod yn llosgi yn yr ardal ehangach.
"Rydym yn deall bod sawl tân gwair yn parhau ar draws y wlad, ond hoffwn ei gwneud yn glir nad ydym yn credu bod cysylltiad rhwng y tân hwn ag unrhyw danau gwyllt eraill," meddai.
Ychwanegodd bod y tân "wedi achosi niwed sylweddol i sawl eiddo preswyl, fydd yn cael effaith drychinebus ar y gymuned leol."
'Torcalonnus'
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Gefn-y-pant toc cyn 16.00 ddydd Mercher wedi adroddiadau fod tân mewn tŷ yno.
Cafodd 12 injan dân eu hanfon i’r lleoliad wrth i'r tân ymledu i dai a gerddi cyfagos, gyda ffyrdd yn cael eu cau a thrigolion yn gorfod gadael eu cartrefi.
Amser cinio ddydd Iau fe ddisgrifiodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth y golygfeydd fel rhai "torcalonnus".