Perchnogion AU Vodka o Abertawe 'yn cytuno i werthu'r cwmni am £500 miliwn'

Llun: AU Vodka
AU Vodka

Mae disgwyl i gwmni AU Vodka o Abertawe, a gafodd ei sefydlu gan gyn-godwr peli [ballboy] i dîm pêl-droed Abertawe, gael ei werthu am £500 miliwn.

Fe ddechreuodd Charlie Morgan ei frand fodca ei hun yn 2015 gyda’i ffrind gorau, Jackson Quinn.

Yn ôl adroddiadau, mae disgwyl i'r cwmni, sydd yn adnabyddus am ei boteli lliw aur a'i flasau amrywiol, gael ei werthu am £500 miliwn.

Bydd Charlie Morgan a Jackson Quinn yn ennill tua £100 miliwn yr un o'r cytundeb gyda chwmni Sazerac o America, yn ôl Sky News.

Sazerac yw'r cwmni sy'n cynhyrchu diodydd BuzzBalls.

Roedd enw Charlie Morgan yn y penawdau am y tro cyntaf yn 2013.

Fel codwr peli 17 oed i dîm Abertawe yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Chelsea, roedd honiadau ei fod wedi ceisio gwastraffu amser ym munudau olaf y gêm, drwy gysgodi’r bêl rhag Eden Hazard pan aeth hi allan am gic gornel.

Cafodd Hazard gerdyn coch am gicio'r bachgen ifanc mewn rhwystredigaeth.

Aeth Abertawe ymlaen i ennill y gêm, a chodi Cwpan y Gynghrair yn y pen draw.

Dywedodd cwmni Sazerac fod disgwyl i fanylion y cytundeb gael eu cytuno a'r amodau rheoleiddiol gael eu cwblhau "o fewn wythnosau."

Mae AU Vodka yn cyflogi mwy na 80 o bobl, ac wedi gwneud elw o £5 miliwn cyn treth yn y flwyddyn ariannol hyd at Ebrill 2025, yn ôl cofnodion y cwmni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.