Tân mawr yn dinistrio nifer o gartrefi yn Nhrecelyn, Sir Caerffili

Tân Trecelyn, Cefn-y-pant

Mae chwe chartref mewn pentref yn Sir Caerffili wedi’u difrodi'n ddifrifol gan dân, gyda rhai wedi eu dinistrio'n llwyr.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Gefn-y-pant yn Nhrecelyn toc cyn 16.00 ddydd Mercher yn dilyn tân mewn tŷ yno.

Cafodd 12 injan dân eu hanfon i’r lleoliad wrth i'r tân ymledu i dai a gerddi cyfagos, gyda ffyrdd yn cael eu cau a thrigolion yn gorfod gadael eu cartrefi.

Y gred yw nad oes unrhyw un wedi'i anafu yn ystod y digwyddiad.

Fe wnaeth y gwasanaeth rannu datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher yn annog pobl i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau oherwydd mwg o’r tân.

'Torcalonnus'

Amser cinio ddydd Iau fe ddisgrifiodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru, y golygfeydd fel rhai "torcalonnus".

Mewn datganiad, dywedodd: "Mae'r delweddau o'r difrod tân yn Nhrecelyn yn dorcalonnus. Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio ac rwy'n ddiolchgar i'r gwasanaethau brys am eu hymdrechion diflino dan amgylchiadau mor heriol".

Ychwanegodd ei fod yn annog y cyhoedd i "ddilyn cyngor y gwasanaethau brys a chadw'n glir o danau sy'n llosgi er mwyn i'r criwiau allu canolbwyntio ar warchod cymunedau a dod a'r tanau hyn dan reolaeth."

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fore dydd Iau, dywedodd arweinydd Cyngor Caerffili fod 20 o bobl wedi eu symud i lety dros dro nos Fercher, ond eu bod bellach mewn gwesty.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard:  "Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, holl staff ein Cyngor, y gymuned gyfan sydd wedi dechrau helpu, sefydliadau a chlybiau lleol fel Clwb Rygbi Trecelyn, ac i’n cynghorwyr yn Nhrecelyn - Gary Johnston, Adrian Hussey a Leeroy Jeremiah - sydd wedi bod yn wych.

"Nes i ni gael unrhyw adroddiadau gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae angen i ni aros i weld beth oedd achos y tân."

Ychwanegodd fod chwe eiddo wedi eu heffeithio'n ddifrifol gan y tân, gyda rhai wedi'u dinistrio'n llwyr.

"Roedd 12 o gerbydau'r gwsanaeth tân yn bresennol ddoe. Cafodd tua 20 o bobl eu lletya mewn llety dros dro neu yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn neithiwr, ond erbyn tua 2.30am roedd pob un ohonynt wedi cofrestru yn y Premier Inn.

"Byddwn yn gweithio gyda'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt heddiw i geisio trefnu llety dros dro".

Dywedodd y byddai peirianwyr strwythurol ar y safle yn asesu'r eiddo ac y byddai'r cyngor yn "ceisio darparu unrhyw gymorth arall sydd ei angen ar y preswylwyr gan ein holl wasanaethau heddiw."

Cefnogaeth

Mae Clwb Rygbi Trecelyn wedi cynnig cefnogaeth i’r trigolion sydd wedi eu gorfodi i adael eu cartrefi yn sgil y tân.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: “Mae’n torri ein calonnau wrth weld y tân erchyll yn gynharach heddiw yng Nghefn-y-pant a’r dinistr mae wedi achosi mewn cyfnod mor byr.

“Ni allwn ddechrau dychmygu beth mae’r bobl sydd wedi’u heffeithio yn mynd drwyddo ar hyn o bryd ac mae’n calonnau yn mynd allan i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddigwyddiad mor ddychrynllyd ac erchyll, a gobeithiwn fod pawb wedi’u canfod yn ddiogel ac yn iach.

“Bydd ein clwb yn agored am 8.00 yn y bore ac fe allwn gynnig diodydd oer a phoeth yn ogystal â’n cyfleusterau newid a chawodydd i bwy bynnag sydd eu hangen. Does dim angen cysylltu â ni neu fwcio – yr unig beth sydd angen ei wneud yw dod yma

“Dyma ein cymuned ac rydym yn hapus i allu cynnig rhyw fath o gymorth lle mae’n bosib.”

Mae apêl bellach wedi'i sefydlu ar dudalen Go Fund Me er mwyn codi arian ar gyfer y rhai sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad.

Llun: Clwb Rygbi Trecelyn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.