Tân yn achosi difrod sylweddol i gaffi poblogaidd yn y Mwmbwls

Verdis

Mae tân wedi achosi difrod sylweddol i gaffi poblogaidd yn y Mwmbwls ger Abertawe nos Fercher.

Mae lluniau sydd wedi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos y dinistr tu mewn i adeilad caffi Verdi's.

Mewn datganiad fore dydd Iau, dywedodd y perchnogion nad oedd neb wedi eu hanafu:

"Rydym wedi ein hysgwyd yn llwyr, ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ailagor Verdi’s cyn gynted ag y bydd hi’n ddiogel gwneud hynny.

"Rydym yn gwybod cymaint mae’r bwyty yn ei olygu i’n tîm, ein cwsmeriaid a chymuned Abertawe, ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl negeseuon cefnogaeth hyd yn hyn."

Ychwanegodd y datganiad: "Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb dros y dyddiau nesaf wrth i ni ddysgu mwy.

"Hoffem ddiolch yn ffurfiol i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am eu hymateb cyflym a’u proffesiynoldeb. Diolch am eich amynedd, eich dealltwriaeth a’ch cefnogaeth barhaus."

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.