Statws sychder ar draws Cymru gyfan wedi cyfnod hir o dywydd poeth

Sychder

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymestyn statws sychder i Gymru gyfan wedi cyfnod hir o dywydd poeth a thanau gwyllt.

Daw'r cyhoeddiad wedi i CNC osod Gogledd Gwynedd, Ynys Môn, De Gwynedd, Afon Dyfrdwy, Clwyd a'r Hafren Uchaf dan statws sychder ar 23 Gorffennaf.

Dywedodd CNC fod ystadegau'n dangos fod Cymru wedi derbyn dim ond 8% o gyfartaledd y glawiad hirdymor ym mis Gorffennaf.

Mae hyn yn golygu bod disgwyl i’r mis hwn fod y Gorffennaf sychaf yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau 190 mlynedd yn ôl.

Mae CNC yn datgan sychder pan mae sawl ffactor "yn dangos prinder arwyddocaol o lawiad ac argaeledd dŵr, sy’n arwain at effaith ar afonydd, dŵr daear, ecosystemau, amaethyddiaeth a rheolaeth tir".

Bellach mae mwyafrif afonydd Cymru yn isel, neu'n eithriadol o isel fel afonydd Clwyd, Dyfi, Alun, Clywedog, Dyfi, Conwy, Cleddau, Cothi, Teifi, Gwy a'r Wysg.

Hefyd mae lefelau dŵr daear yn parhau i ostwng ledled Cymru, gyda rhai yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn.  

Dros yr wythnosau diwethaf mae CNC a'r gwasanaethau brys wedi bod yn delio gyda thanau gwyllt ar draws Cymru hefyd.

Roedd rhai sylweddol ar fynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech, ym Mlaenafon ac yng Nghonwy.

'Newid yn gyflym'

Dywedodd Rhian Thomas, Rheolwr Dŵr a Natur Gynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru, fod y darlun yn "newid yn gyflym" yng Nghymru oherwydd y gwres a'r diffyg glaw.

“Mae difrifoldeb y gwres, a’r diffyg eithriadol o law, yn golygu bod hwn yn ddarlun sy’n newid yn gyflym," meddai.

"Mae ein timau'n monitro rhagolygon a llifoedd afon yn agos, ac yn ymateb i ddigwyddiadau a phryderon amgylcheddol cynyddol ar draws Cymru.

“Mae’r effaith ar yr amgylchedd, ein tirwedd a’r byd amaeth yn amlwg i’w gweld, gyda llawer o’n timau’n parhau i ddelio ag ôl-effeithiau tanau gwyllt helaeth sydd wedi dinistrio coedwigoedd, glaswelltiroedd a chynefinoedd arbennig.

“Heb unrhyw arwyddion cryf o lawiad sylweddol yn y rhagolygon, a risgiau o donnau gwres pellach dros yr haf, mae'n bwysicach nag erioed bod pawb ohonom yn defnyddio dŵr yn ddoeth. Mae pob diferyn rydyn ni'n ei wastraffu yn llai o ddŵr i'n hafonydd a'n bywyd gwyllt pan maen nhw ei angen fwyaf.”

Ychwanegodd CNC eu bod nhw'n gweithio gyda chwmnïau dŵr, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac aelodau Grŵp Cyswllt Sychder Cymru i fonitro amodau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.