Tawelwch mewn llwch a lludw: Argraffiadau Gwyn Loader o danau gwyllt Ffrainc

Newyddion S4C
Llun: Sam Robinson
Gwyn yn Ffrainc

Dros y dyddiau diwethaf, mae tîm rhaglen Newyddion S4C wedi bod yn darlledu’n fyw o Ffrainc wrth i danau gwyllt ledu ar draws rhannau o'r wlad. 

Dyma argraffiadau ein Prif Ohebydd Gwyn Loader o ohebu ar y sefyllfa yn Ffrainc. 

Y tawelwch sy’n taro rhywun yn Lege cap Ferret. 

Ers wythnos, ma’r dref fechan, sydd fel arfer yn ferw gwyllt o dwristiaid yr adeg yma’r flwyddyn, bron yn gwbl wag o bobl. 

Mae’r cartrefi wedi gwagio, drysau’r siopau a’r bwytai wedi’u cau. 

Dwi’n sefyll ar ganol cylchdro i recordio darn i gamera - delwedd hurt sydd yn tanlinellu gwiriondeb presennol y dref hon lle mae’r bobl wedi ffoi rhag y fflamau gerllaw. 

Wrth gerdded at y car, dwi’n gweld dyn yn gwthio beic. “Bonjour!” yw cyfarchiad cynnes Christian Jacqueline. 

Gwrthododd e adael ei gartref pan ddaeth y rhybuddion a’r anogaeth i adael wythnos ddiwethaf. 

Image
Llun: Gwyn Loader
Llun: Sam Robinson

Gyda phibell ddŵr yn arf, mae wedi bod yn benderfynol o ddiogelu ei gartref. Ond er gwaethaf ei lwyddiant yn hynny o beth, mae e nawr yn difaru aros. 

“Mae fy mheiriant canfod carbon monocsid yn y tŷ yn dangos darlleniadau peryglus o uchel” dywed wrtha’i. 

“Ond does dim car gen i. Dwi’n gaeth yma”. 

Wedi i Christian gerdded yn bryderus nôl i’w gartref, mae’r awyr yn tywyllu. 

Mae’r gwynt yn codi, ac yn tywys arogl chwerw, cyfarwydd, y mwg brwnt tuag atom. 

Image
Llun: Gwyn Loader
Llun: Sam Robinson

Mewn maes parcio ger y cae rygbi lleol, mae un o arweinwyr gwasanaeth tân yr ardal yn fy ngwahodd i, a Sam Robinson, y dyn camera sy’n gweithio gyda fi, i ddilyn y swyddogion wrth eu gwaith. 

“Ry’n ni’n disgwyl i bethau waethygu brynhawn ‘ma” meddai Matthieu Jomain. “Dewch nôl aton ni am ddau o’r gloch”. 

Mewn confoi felly, ry’n ni’n teithio drwy’r pentrefi gweigion tuag at y tân diweddaraf i afael yn yr ardal. 

Ry’n ni’n gorffen y daith mewn coedwig sydd wedi ei gorchuddio gan gwmwl o fwg. Ychydig oriau nôl, roedd y tân yma wedi ei ddiffodd. Ond mae’r gwynt a’r gwres wedi golygu ei fod e nawr wedi ailafael. 

Rwy’n camu o’r car, y mwg yn llosgi’r llygaid, lludw yn cwympo fel eira o’r awyr. 

Image
Llun: Gwyn Loader
Llun: Gwyn Loader

Mae hofrennydd melyn llachar yn tywys tair awyren at y safle. Gwibio mynd mae’r rheiny at y coed, cyn gollwng eu llwyth - 6,000 litr o ddŵr yr un - ar y fflamau. 

Yn fuan, byddan nhw’n dychwelyd am ail, trydydd a phedwaredd taith, y bwriad yw trechu’r tân gyda’r llif cyson. 

Am nawr, sefyll nôl mae’r swyddogion ar y tir. Eu llygaid, fel eu pibelli dŵr, yn syllu’n obeithiol i’r awyr. 

“Ry’n ni wedi blino’n lân” meddai Matthieu Jomain, y swyddog tân, wrtha’i “ond mae’n rhaid i ni aros er eu mwyn nhw” meddai, gan gyfeirio at griw o ddynion cyhyrog, blin a blinedig yr olwg sydd yn sefyll ger cerbydau “pick-up” gerllaw. 

Image
Llun: Gwyn Loader
Llun: Sam Robinson

Dyma’r trigolion lleol sydd yn ceisio amddiffyn eu cymunedau. Eu rhofiau a’u bwcedi o ddŵr yn ymateb ar frys i unrhyw fflamau newydd sydd yn codi o’r tir. 

Eu cyrff wedi duo gan y llwch a’r lludw, dyma ddelwedd sy’n atgyfodiad o löwyr diwedd-shifft fy mhlentyndod yng nghwm Taf. 

“Mae’n rhaid i ni fod gyda’r bobl yma sydd wedi colli cartrefi” meddai’r swyddog tân. “Mae’n amhosibl i ni adael maes y gad. Ry’n ni wedi blino, ond fe gysgwn ni wedi hyn i gyd.”

Yn ôl thermomedr y car llog, mae’n 40 gradd selsiws erbyn hyn. Dyma frig pedwerydd cyfnod Ffrainc o wres eithafol yr haf hwn. Y proffwydo yw y bydd heddiw yn ddiwrnod tyngedfennol wrth benderfynu ai gwaethygu neu wella fydd y sefyllfa o ran y tanau diweddar. 

Image
Llun: Gwyn Loader
Llun: Sam Robinson

Wrth i ni adael yr ardal a dychwelyd i Bordeaux, rwy’n gofyn i Matthieu Jomain ydyn nhw’n ennill y frwydr?

“Dwi’n obeithiol” meddai wrtha’i “ond dyw’r rhyfel ddim drosodd”. 

Erbyn y bore, mae’r tanau dan reolaeth. Y perygl mawr wedi cilio -am y tro o leiaf. 

Mae 42,000 hectar wedi eu dinistrio gan y tanau yn ne orllewin Ffrainc; mae dros 200 o dai wedi eu llyncu gan y fflamau ac economi ardal dwristaidd wedi derbyn clec ddifrifol. 

Wrth i Ewrop gynhesu’n gynt nag unrhyw gyfandir yn y byd, y cwestiwn nawr yw sut mae rhwystro argyfwng arall fel yr un yma yn y dyfodol?

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.