Llefarydd Reform yn 'hollol hyderus' fod y blaid wedi dilyn rheolau rhoddion ariannol

Robert Jenrick

Mae Robert Jenrick o Reform UK wedi dweud ei fod yn “hollol hyderus” bod ei blaid wedi dilyn yr holl reolau etholiadol yn dilyn adroddiadau am gefnogwr cyfoethog yn trosglwyddo arian i’w fam cyn iddi hi wneud rhoddion i'r blais.

Mae The Guardian wedi adrodd fod George Cottrell wedi trosglwyddo mwy na dwy filiwn o ddoleri (£1.5 miliwn) i’w fam, Fiona Cottrell, ychydig cyn iddi hi wneud rhodd i Reform yn 2024.

Mae cyllid y blaid wedi bod dan sylw yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae Heddlu'r Met yn ymchwilio i weld a oedd cefnogwyr ariannol y blaid wedi osgoi rheolau sydd yn cyfyngu ar ffynonellau cyllid gwleidyddol.

Pan ofynnwyd iddo gan newyddiadurwyr a oedd yn sicr 100% bod yr arian yn dod o ffynonellau sydd yn cael eu caniatáu o dan gyfraith etholiadol, dywedodd Mr Jenrick: “Roedd y rhoddion rydych chi’n cyfeirio atynt wedi digwydd peth amser yn ôl. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers amser maith.

“Ond rydym yn hollol hyderus bod Reform wedi dilyn yr holl reolau etholiadol ar y pryd pan wnaed y rhoddion.”

Ychwanegodd Mr Jenrick: “Wrth gwrs, byddwn yn cymryd rhan mewn unrhyw ymholiadau.

“Hyd y gwn i, nid yw’r heddlu wedi cysylltu gyda ni hyd yn oed, felly dydw i ddim yn credu bod gennym ni unrhyw beth arall i’w ychwanegu at hynny.”

Y gred yw bod Ms Cottrell wedi derbyn un blaendal o 1.4 miliwn o ddoleri ac yna dau daliad o fwy na 300,000 o ddoleri yr un.

Honnir iddi ddweud fod yr arian wedi dod gan ei mab pan ofynnwyd iddi gan fanc am y blaendaliadau.

Derbyniodd yr arian tua 24-72 awr cyn iddi wneud rhodd naill ai i Reform UK yn uniongyrchol neu i’r cwmni Britain Means Business, yn ôl The Guardian.

Mae ymchwiliad y Met yn ymwneud â rhoddion i Reform UK gan Britain Means Business, mudiad codi arian y mae dirprwy arweinydd Reform UK, Richard Tice, yn gyfarwyddwr iddo.

Mae The Times wedi adrodd fod y cwmni wedi rhoi dau rodd o £250,000 i Reform yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol 2024.

Cafodd yr arian ei dalu i’w gwmni gan Ms Cottrell, sydd yn gefnogwraig Reform meddai Mr Tice yn flaenorol.

Mae adroddiadau'n awgrymu iddi roi £1 miliwn i Britain Means Business ym mis Mehefin 2024, a bod hanner yr arian hwnnw wedyn wedi'i roi i Reform.

Mae ei mab, George Cottrell, yn droseddwr a gafwyd yn euog o dwyll yn yr UDA.

Roedd yn gyfrifol am ddarparu cyllid ar gyfer diogelwch a staff i Nigel Farage yn y flwyddyn cyn iddo gael ei ethol.

 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.