Talerddig: Adroddiad yn rhestru'r methiannau achosodd ddamwain drenau angheuol

raib

Mae arbenigwyr a fu’n ymchwilio i wrthdrawiad trên ger Llanbrynmair yn 2024 wedi dod i'r casgliad mai nifer o fethiannau oedd yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd, ac fe allai'r ddamwain fod wedi cael ei osgoi.

Bu farw un dyn ac fe gafodd 11 o deithwyr eraill eu hanafu yn y digwyddiad - pedwar yn ddifrifol.

Roedd David Tudor Evans o Gapel Dewi ar ei ffordd adref o wyliau yn yr Eidal ar drên o’r Amwythig i Aberystwyth ym mis Hydref y flwyddyn honno pan wrthdarodd ei drên â thrên arall.

Mae’r adroddiad gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) yn galw am edrych eto ar safonau dylunio byrddau a gosodiadau mewnol eraill mewn trenau.

Dywedodd RAIB fod y dyn a fu farw wedi cael ei daflu’n galed yn erbyn ymyl bwrdd yn ystod y gwrthdrawiad.

'Problem gynhenid'

Roedd trên yn teithio ar gyflymder o tua 24mya pan wrthdarodd â thrên arall Trafnidiaeth Cymru, oedd yn teithio tua 6mya.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad y gallai’r gwrthdrawiad fod wedi cael ei osgoi pe bai’r systemau diogelwch ar y trên wedi rhyddhau tywod ar y cledrau.

Roedd y system tywod awtomatig heb weithio, yn ôl pob tebyg oherwydd diffygion trydanol, ac ni chafodd y system sandio frys â llaw ei defnyddio gan y gyrrwr.

Dywedodd yr adroddiad fod cyflymder y trên wrth agosáu at fynedfa ddwyreiniol dolen Talerddig yn golygu nad oedd modd cynnal yr arafiad oedd ei angen, o ystyried lefel yr afael rhwng yr olwynion a’r cledrau.

Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:

• Gwella dyluniad, cynnal a chadw a phrofi cyfarpar sandio ar drenau.

• Adolygu sut mae risgiau gor-redeg yn cael eu hasesu, gan ystyried amgylchiadau’r ddamwain.

• Adolygu sut mae gyrwyr yn cael eu hyfforddi.

• Sicrhau bod gan bob aelod o staff ar drenau, beth bynnag fo’u rôl, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynorthwyo os bydd argyfwng.

Image
Bwrdd
Bwrdd mewn trên 158 Trafnidiaeth Cymru

Dywedodd Andrew Hall, Prif Arolygydd Damweiniau Rheilffyrdd yr RAIB, fod “lefelau amrywiol iawn o afael rhwng olwynion dur a rheiliau dur yn broblem gynhenid i’r rheilffyrdd, ac mae ymdrech sylweddol yn mynd i reoli hyn a’i ganlyniadau posibl”.

“Gall hynny gynnwys y ffordd y mae’r trac a’r ardal gyfagos yn cael eu cynnal a’u cadw, y ffordd y mae trenau a systemau signalau wedi’u cynllunio, a’r ffordd y mae trenau’n cael eu gweithredu a’u cynnal a’u cadw.

“Canfu ymchwiliad i Talerddig ffactorau sy’n gysylltiedig â sawl un o’r meysydd hyn, ac yn gysylltiedig â’r ffordd roedd gwahanol rannau o’r system reilffordd gyffredinol yn rhyngweithio.

“Rwy’n mawr obeithio y bydd gwersi’r ddamwain hon yn arwain at welliannau diogelwch parhaol ar linell y Cambrian, ar draws y broses barhaus o gyflwyno System Rheoli Traffig Rheilffyrdd Ewrop, ac ar y rhwydwaith rheilffyrdd ehangach.”

Dywedodd Mr Hall fod y ddamwain yn “drasiedi”.

“Collodd un person ei fywyd ac anafwyd eraill yn ddifrifol yn y gwrthdrawiad angheuol cyntaf rhwng trenau mewn mwy na 25 mlynedd,” meddai.

Byrddau

Dywedodd yr adroddiad fod y byrddau wedi’u dylunio i safon British Rail o 1986, ac nad oedden nhw wedi eu huwchraddio i gydymffurfio â safonau a gafodd eu cyflwyno ar ôl i’r trên gael ei adeiladu’n wreiddiol, yn ystod gwaith adnewyddu yn 2010.

“Roedd dyluniad byrddau’r salŵn yn golygu bod teithiwr wedi cael anafiadau angheuol ar ôl taro yn erbyn un ohonynt,” meddai’r adroddiad.

“Ar adeg y gwrthdrawiad, fe wnaeth yr arafiad sydyn daflu’r teithiwr yn galed yn erbyn ymyl y bwrdd.

“Mae tystiolaeth gan dystion a chamerâu cylch cyfyng yn dangos ei fod yn dangos arwyddion o fod wedi dioddef anaf difrifol yn syth ar ôl y ddamwain.

“Mae tystiolaeth post-mortem yn dangos cysylltiad clir rhwng marwolaeth y teithiwr a’r anafiadau a gafodd wrth daro’r bwrdd.”

Mae’r adroddiad yn argymell: “Mae argymhelliad wedi cael ei wneud i’r Bwrdd Diogelwch a Safonau Rheilffyrdd adolygu’r safonau a’r rheolau sy’n pennu dyluniad gosodiadau mewnol trenau teithwyr, er mwyn lleihau’r risg i deithwyr os bydd damwain.”

Croesawu'r adroddiad

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail: "Diogelwch ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr sy’n parhau i fod yn brif blaenoriaeth.
 
"Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda theulu ac anwyliaid David Tudor Evans a'r teithwyr a anafwyd yn y digwyddiad, ac rydym yn parhau i gefnogi ein cydweithwyr a gafodd eu hanafu neu eu heffeithio.
 
"Mae Network Rail a Trafnidiaeth Cymru yn croesawu cyhoeddiad adroddiad terfynol y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd am y digwyddiad hwn ac rydym wedi cydweithio'n llawn â'r ymchwiliad yn barhaus.
 
 "Er bod digwyddiadau o'r fath yma yn anghyffredin tu hwnt ar ein rhwydwaith rheilffyrdd, rydym yn parhau i ymrwymo i gydweithio fel diwydiant i ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus er mwyn helpu atal digwyddiad tebyg yn y dyfodol."
 
Argymhellion
 

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu David Tudor Evans, a gollodd ei fywyd yn drist iawn, yn ogystal â’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad.

“Rydym yn disgwyl i’r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru ystyried yr argymhellion yn ofalus ac i gydweithio i gymryd y camau angenrheidiol i helpu i atal unrhyw ddigwyddiad tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.

“Mae diogelwch y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn hanfodol, ac rydym wedi gofyn am gael ein diweddaru ynghylch y camau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu cymryd i sicrhau bod diogelwch bob amser yn brif flaenoriaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.