Taith hanesyddol Artemis II i'r Lleuad yn gadael Florida yn llwyddiannus
Taith hanesyddol Artemis II i'r Lleuad yn gadael Florida yn llwyddiannus
Mae taith gyntaf gofodwyr NASA i'r Lleuad ers dros 50 mlynedd, fydd yn mynd â chriw yn ddyfnach i'r gofod nag ar unrhyw daith o'r blaen, wedi cychwyn.
Cafodd y roced sydd yn 322 troedfedd o hyd ac yn cludo pedwar aelod o'r criw ei lansio yn llwyddiannus o Cape Canaveral yn Florida, UDA, am 06.36 amser lleol.
Bydd y pedwar gofodwr yn cylchdroi'r Ddaear am tua 25 awr cyn anelu tuag at y Lleuad.
Ni fydd y criw yn glanio ar y Lleuad ei hun yn ystod y daith, a'r bwriad yw teithio heibio'r Lleuad sydd 244,000 o filltiroedd i ffwrdd - gan hedfan 5,000 o filltiroedd tu hwnt i hynny.
Bum munud i mewn i'r daith hanesyddol, dywedodd y Comander Reid Wiseman: "Mae'r Lleuad yn codi'n hardd, rydym yn mynd yn syth ati."
Roedd y tîm o ofodwyr wedi cyrraedd y capsiwl nifer o oriau cyn dechrau eu taith 10 diwrnod o hyd.
Ychydig iawn o le sydd yn y roced i'r criw gan fod y capsiwl o faint fan wersylla fach yn unig.
Cyn y daith, cafodd dros 700,000 galwyn o danwydd (2.6 miliwn litr) ei lwytho i'r llong ofod.
Y record ar gyfer y daith ofod bellaf yw tua 248,000 milltir, gafodd ei chwblhau gan griw o ofodwyr Apollo 13 yn 1970, oedd yn daith llawn problemau technegol.
Wrth i ofodwyr Artemis II basio tua 4,600 milltir y tu hwnt i ochr bellaf y Lleuad, bydd modiwl Orion yn colli cyswllt â'r Ddaear am tua 50 munud.
Er na fydd y gofodwyr yn glanio ar y lloeren, mae taith Artemis II yn paratoi'r ffordd ar gyfer glanio ar y Lleuad yn y dyfodol, ac mae hefyd yn gosod sylfaen i anfon criw i blaned Mawrth meddai NASA.
Inline Tweet: https://twitter.com/NASA/status/2039473910987534599