Streeting 'yn barod' i danio gornest arweinyddiaeth wythnos nesaf

Wes Streeting

Mae Wes Streeting wedi dweud "y byddai yn barod" i danio gornest i ddewis olynydd i Keir Starmer mor gynnar ag wythnos nesaf.

Wrth siarad ar raglen BBC Newsnight dywedodd y bydd yn rhaid taclo "ansicrwydd a'r parlys" sy'n bodoli o fewn y blaid Lafur os yw'r blaid yn ennill yr is-etholiad yn Makerfield.

Fe ymddiswyddodd Wes Streeting o gabinet Llywodraeth y DU fis dwytha. Wrth adael fe gyhuddodd y cyn ysgrifennydd iechyd Starmer o fod yn "ddi-gyfeiriad" a heb weledigaeth.

Mae Streeting ac Andy Burnham wedi dweud yn y gorffennol y bydden nhw yn sefyll mewn unrhyw ornest i fod yn Brif Weinidog. Ond dydyn nhw heb ddweud tan rŵan y bydden nhw yn barod i danio'r ornest.

'Barod i wneud'

Fe ofynnodd Victoria Derbyshire, cyflwynydd BBC Newsnight wrth Wes Streeting a fyddai o yn barod i danio'r ras arweinyddiaeth.

"Dwi'n credu bod angen rhoi rhywfaint o le ac amser i’r prif weinidog fyfyrio dros y penwythnos, ac wedyn y dylen ni weld ble rydyn ni wedyn.

"Byddai’n well gen i i’r Prif Weinidog wneud penderfyniad ar ei delerau ei hun yn hytrach na’i adael i fi neu Andy neu unrhyw un arall sbarduno cystadleuaeth.

"Os na fydd hynny’n digwydd, allwn ni ddim parhau gyda’r ansicrwydd a’r parlys hwn, a bydd angen cynnal cystadleuaeth, ac mi fyddwn i yn barod i wneud hynny," meddai.

Mewn cyfweliad o gynhadledd y G7 mae Keir Starmer wedi rhybuddio Burnham i beidio dechrau'r ras arweinyddiaeth os y daw yn Aelod Seneddol. 

Mae Andy Burnham yn Faer Manceinion ar hyn o bryd. Ond mae'n ymgeisydd Llafur ar gyfer yr is-etholiad yn Makerfield. Os bydd yn ennill y sedd honno fe fydd yn Aelod Seneddol ac yn gallu tanio gornest neu sefyll mewn gornest. 

'Chwarae rhan fawr mewn llywodraeth'

Bydd hefyd yn gorfod rhoi'r gorau i fod yn faer Manceinion a'r disgwyl yw y byddai is-etholiad i gael unigolyn i'w olynu yn digwydd ar 6 Awst.

Wrth siarad gyda newyddiadurwyr mae Starmer wedi dweud y byddai ras arweinyddiaeth yn beth "gwael" i'r wlad ac y byddai yn barod i herio a sefyll eto.

Ychwanegodd y byddai etholiad maer Manceinion yn "bwysig iawn" i Lafur os bydd yn digwydd. Dywedodd byddai rhaid i'r blaid "dorchi llewys i wneud yn siŵr bod yna fuddugoliaeth arall i Lafur".

Fe wnaeth o hefyd awgrymu y byddai yn cynnig swydd yn y cabinet i Andy Burnham os bydd yn ennill yn Makerfield gan ddweud y byddai yn "chwarae rhan fawr mewn llywodraeth Lafur".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.