Storm Dave: Gwyntoedd dros 90mya wedi taro'r gogledd-orllewin dros nos

Storm Dave: Gwyntoedd dros 90mya wedi taro'r gogledd-orllewin dros nos

Roedd Storm Dave wedi dod â gwyntoedd cryfion i ogledd-orllewin Cymru dros nos, gyda hyrddiadau o hyd at 93mya wedi'u cofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri.

Daw ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd oren am wynt dros benwythnos y Pasg.

Roedd y rhybudd mewn grym rhwng 19.00 nos Sadwrn ac 03.00 fore Sul - gan effeithio fwyaf ar siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Cafodd y rhybudd ei uwchraddio o felyn i oren amser cinio ddydd Sadwrn, gyda'r rhybudd yn golygu y gallai fod perygl i fywyd.  

Roedd disgwyl i'r storm ddod â hyrddiadau o 60 i 70mya, gyda 80mya mewn mannau mwy agored.

Oherwydd y gwynt "a allai fod yn niweidiol", roedd y Swyddfa Dywydd wedi annog pobl i osgoi mynd allan lle bo modd.

"Mae bod y tu allan mewn gwyntoedd cryfion yn eich gwneud chi'n fwy agored i anaf," meddai llefarydd ar ran y swyddfa.

"Arhoswch dan do cymaint â phosibl. Os ewch chi allan, ceisiwch beidio â cherdded, na chysgodi, yn agos at adeiladau a choed. 

"Cyn gwyntoedd cryfion, gwiriwch am eitemau rhydd y tu allan i'ch cartref a'u sicrhau - biniau, dodrefn gardd, trampolinau, pebyll, siediau, a ffensys."

Roedd y Swyddfa Dywydd hefyd wedi rhybuddio bod oedi’n debygol ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd, yn ogystal ag i wasanaethau awyr a fferi, gyda chanslo rhai gwasanaethau yn bosib.

Roedd y rhagolygon yn rhybuddio bod difrod i adeiladau'n debygol, gan gynnwys teils yn cael eu chwythu oddi ar doeau.

Roedd y Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt rhwng 17.00 ddydd Sadwrn a 07.00 fore Sul, gyda hynny'n effeithio ar y siroedd canlynol: Ceredigion; Conwy; Sir Ddinbych; Sir y Fflint; Gwynedd; Ynys Môn; Sir Benfro; Powys.

Image
Nathan Price
Nathan Price, gweithiwr siop yn Llanberis

Er hynny, mynnu mentro oedd rhai yn Eryri gyda pherchnogion busnes yn gobeithio am Basg prysur. 

Dywedodd Nathan Price, gweithiwr siop yn Llanberis, bod y tywydd yn gallu bod o fantais i rai busnesau.

"Er bod y tywydd wedi bod reit ddrwg, mae'n gallu ffafrio ni un ffordd hefyd - mwy o bobl yn dod i brynu cotiau glaw a trowsus glaw," meddai.

"I Llanber mae twristiaid yn dod i'r pentre yn dod â lot o fusnes i ni a lot o cwmnïau eraill yn y pentre, so definitely yn positif."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.