Starmer i wynebu rhagor o gwestiynau am benodiad Mandelson yn llysgennad

Arglwydd Mandelson

Bydd Syr Keir Starmer yn wynebu rhagor o gwestiynau ynglŷn â'i benderfyniad i wneud yr Arglwydd Mandelson yn llysgennad i'r Unol Daleithiau, ar ôl iddo ddod i'r amlwg ei fod wedi cael rhybudd am "risg gyffredinol i enw da" cyn y penodiad.

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog siarad â newyddiadurwyr yn ystod ymweliad â Belfast ddydd Iau, yn dilyn rhyddhau dogfennau oedd yn dangos bod gan swyddogion y llywodraeth bryderon am benodi'r arglwydd i'r swydd yn Washington.

Hwn fydd ymddangosiad cyhoeddus cyntaf y Prif Weinidog ers cyhoeddi'r rhan gyntaf o ddogfennau yn ymwneud â'r arglwydd ddydd Mercher.

Yn dilyn cyhoeddi'r dogfennau, dywedodd arweinydd y Torïaid, Kemi Badenoch, y dylai ASau Llafur ystyried a yw Syr Keir yn "addas i redeg ein gwlad" ar ôl bod yn "anonest gyda nhw, gyda'r wlad, gyda'r Senedd, ynglŷn â'r hyn yr oedd yn ei wybod."

'Dweud celwydd'

Mae'r Prif Weinidog wedi mynnu bod yr Arglwydd Mandelson wedi "dweud celwydd dro ar ôl tro" wrth Downing Street am ei berthynas â'r pedoffeil Jeffrey Epstein, cyn ac yn ystod ei gyfnod fel llysgennad.

Ond dangosodd papurau a gyhoeddwyd ddydd Mercher fod dogfen "diwydrwydd dyladwy" ('due diligence') a luniwyd gan Swyddfa'r Cabinet ym mis Rhagfyr 2024, wedi nodi cyfres o adroddiadau yn manylu ar ei gysylltiadau â'r troseddwr rhyw.

Tynnodd y ddogfen sylw at y ffaith bod yr Arglwydd Mandelson wedi cytuno yn 2014 i fod yn sefydlydd grŵp cadwraethol a sefydlwyd gan Ghislaine Maxwell, ac oedd wedi ei ariannu gan Epstein.

Roedd Maxwell yn gyn-gariad i Epstein ac fe gafodd ei charcharu am 20 mlynedd yn yr Unol Daleithiau yn 2022 am fasnachu mewn pobl at dibenion rhywiol.

Llun: PA

 

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.