Gobeithion Wrecsam o gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr ar ben
Mae gobeithion Wrecsam o gyrraedd y gemau ail-gyfle a chadw'r freuddwyd o gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr ar ben.
Fe gafodd y Dreigiau gêm gyfartal yn erbyn Middlesbrough ar y Cae Ras ddydd Sadwrn, ond fe wnaeth buddugoliaeth Hull yn erbyn Norwich olygu mai nhw oedd yn hawlio'r lle olaf ar gyfer y gemau ail-gyfle.
Mae'r canlyniadau yn golygu bod Wrecsam yn gorffen yn y seithfed safle yn y Bencampwriaeth, wedi iddyn nhw sicrhau tri dyrchafiad yn olynol i gyrraedd y gynghrair yma.
Fe lwyddodd Ipswich i sicrhau dyrchafiad awtomatig i Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn wedi iddyn nhw guro Queens Park Rangers 3-0.
Mae hyn yn golygu mai Millwall, Southampton, Middlesbrough a Hull fydd yn brwydro am y safle olaf yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe fydd Millwall yn wynebu Hull gyda Southampton yn wynebu Middlesbrough yn y rowndiau cyn-derfynol, gydag enillydd y ddwy gêm yn mynd ymlaen i herio'i gilydd yn Wembley yn y rownd derfynol.