Sir Gâr: Dyn 19 oed yn cyfaddef iddo ysgarthu mewn pwll nofio yn fwriadol ar sawl achlysur
Mae dyn 19 oed wedi cyfaddef iddo ysgarthu (defecate) mewn pwll nofio yn fwriadol ar sawl achlysur yng Nghastellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin.
Bu'n rhaid i Bwll Nofio Castellnewydd Emlyn gau sawl gwaith rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Mai 2026 ar ôl i "wastraff" gael ei ddarganfod yn y pwll ar sawl achlysur.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn adroddiad am gyfres o ddigwyddiadau, medden nhw.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu fod dyn 19 oed o Geredigion wedi cyfaddef iddo ysgarthu yn y pwll ar sawl achlysur.
"Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn adroddiad am ddigwyddiadau o ddifrod troseddol honedig yng Nghanolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn," meddai'r llu.
"Roedd y digwyddiadau rhwng Tachwedd 2025 a Mai 2026 ac yn cynnwys gwastraff yn cael ei osod yn fwriadol yn y pwll nofio, gan arwain at y pwll yn cau a’r angen i’w lanhau.
"Cafodd dyn 19 oed o ardal Aberteifi ei adnabod a’i gyfweld gan swyddogion.
"Fe wnaeth gyfaddef yn llawn i’r troseddau, ac fe gafodd y mater ei ddatrys drwy Ddatrysiad Cymunedol i Oedolion. Mae’r ymchwiliad bellach wedi dod i ben."
Mae Pwll Nofio Castellnewydd Emlyn yn cael ei redeg gan elusen yn y gymuned, sydd ar wahân i'r Ganolfan Hamdden sydd dan ofal Cyngor Sir Gaerfyrddin.
