Sir y Fflint: Dynes ag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad rhwng cerddwr a char
Mae dynes wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn y Fflint nos Fercher.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y ddynes a char gwyn Nissan Note toc wedi 20.00 ar Stryd yr Iarll.
Cafodd y cerddwr ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd gan y gwasanaethau brys wedi iddi ddioddef anafiadau difrifol.
Mae Heddlu’r Gogledd bellach yn apelio am unrhyw lygad dystion neu unigolion a oedd yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad i gysylltu ar unwaith.
Maent yn hefyd annog unrhyw un sydd â delweddau dashcam a CCTV i gysylltu, hynny drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 26000136852.